Cyhoeddi enw deifiwr sydd ar goll oddi ar arfordir Pen Llŷn
Mae'r gwaith o chwilio am ddeifiwr sydd ar goll oddi ar arfordir Pen Llŷn ers dydd Iau yn parhau.
Enw'r dyn sydd ar goll yw Imrich, sy'n 53 oed ac yn dod o ardal Warrington meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Cafodd Gwylwyr y Glannau adroddiad am 13.15 ar 28 Tachwedd fod pryderon am ddiogelwch deifiwr yn y môr, ger Porth Ysgaden, Tudweiliog.
Cafwyd hyd i Ford Mondeo Titanium arian mewn maes parcio ger Porth Ysgaden yn perthyn i Imrich, ynghyd a'i eiddo personol.
Dechreuodd y chwilio eto ddydd Gwener ar ôl ymdrechion i ddod o hyd i'r dyn ddod i ben am gyfnod dydd Iau.
Cafodd hofrennydd ac awyren Gwylwyr y Glannau eu galw i’r lleoliad i chwilio am yr unigolyn, yn ogystal â thimau Gwylwyr y Glannau Porthdinllaen, Aberdaron, Abersoch a Llandwrog.
Cafodd criw Bad Achub Porthdinllaen a Heddlu’r Gogledd hefyd eu galw i gynorthwyo gyda'r ymdrechion.
Mae archwiliadau tir a môr yn parhau yn yr ardal i helpu i ddod o hyd iddo.
Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson: “Rydym yn cadw pob trywydd ymholi ar agor ac yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld Imrich i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.
“Gofynnir i unrhyw un oedd yn ardal Porth Ysgaden ar ddydd Mercher, Tachwedd 27ain neu ddydd Iau, Tachwedd 28ain ac sydd heb gysylltu yn barod i gysylltu â ni.
“Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 101, neu drwy ein gwefan gan ddefnyddio’r ddolen isod, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod Q179229.”