£1 miliwn yn ychwanegol i'r celfyddydau wedi cyfnod heriol o doriadau
Bydd arian ychwanegol ar gael i'r sector gelfyddydol yng Nghymru wedi toriadau diweddar i gyllidebau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw yn rhoi £1m yn 2024-25 i'r maes.
Y nod yw diogelu swyddi a gwneud y sefydliadau yn fwy gwydn meddai'r llywodraeth.
Eleni mae'r celfyddydau wedi wynebu toriad o 10.5% yn eu cyllideb.
Ym mis Awst fe rybuddiodd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru na fydd yna sector gelfyddydol broffesiynol yn bod mewn 10 mlynedd os bydd yna ragor o dorri cyllidebau.
Mae'r llywodraeth wedi dweud yn y gorffennol eu bod nhw wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd a chanolbwyntio cyllid ar wasanaethau craidd.
Bydd 60 sefydliad yn elwa o'r arian ychwanegol gan gynnwys Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Wrexham Sounds,Theatr Mwldan a Sefydliad y Glowyr y Coed-duon. Fe wnaeth 95 gais am nawdd.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys bod y newyddion i'w groesawu a hynny wedi cyfnod heriol.
"Mae ein Hadroddiad Effaith Economaidd yn dangos bod toriadau’n effeithio ar economi ehangach Cymru ac nid ar sector y celfyddydau yn unig. Yn ôl yr adroddiad, mae gwario punt ar y celfyddydau’n rhoi £2.51 yn ôl i'r economi.
"Mae’r celfyddydau hefyd yn gwneud cyfraniad anferth at iechyd a lles pobl Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn drwy’r gronfa hon, sy’n hwb i hyder y sector ac rydym yn diolch i’r Gweinidog am ei ymateb prydlon i'r argyfwng.”
Arian Loteri
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £1.5m o arian ym mis Medi ac mae £1m hefyd wedi ei rhoi gan Arian y Loteri Genedlaethol tuag at y gronfa sydd wedi ei sefydlu i helpu'r sector.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant AS bod y cyhoeddiad yn dangos ymrwymiad y llywodraeth at y sector.
"Mae sector y celfyddydau yn gwneud cyfraniad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd pwysig iawn. Mae’n cyfoethogi ein cymunedau ac yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
"Er gwaethaf y pwysau ariannol, dwi’n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi rhai o’n sefydliadau celfyddydol anwylaf a mwyaf talentog gyda'r arian ychwanegol i wella eu gwytnwch yn wyneb y problemau parhaus.
"Yn fuan, byddwn yn cyhoeddi rhagor o gymorth i'r sector yng Nghyllideb Llywodraeth Cymru."