Disgwyl diweddariad am farwolaeth ffermwr o ardal y Bala mewn tanc slyri
Fe fydd cwest yn cael ei gynnal yng Nghaernarfon ddydd Mawrth i ymchwilio i gefndir marwolaeth ffermwr o Wynedd gafodd ei ddarganfod yn farw mewn tanc slyri.
Bu farw Islwyn Owen, 67 oed, mewn digwyddiad ar fferm Cefn Bodig ar 4 Medi.
Derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru alwad am 20.49 ar ddiwrnod y farwolaeth yn dweud bod Mr Owen ar goll.
Roedd wedi bod yn gweithio ar y fferm ar y pryd.
Cafwyd hyd i'w gorff yn y tanc slyri ar y fferm ac fe gafodd archwiliad post mortem ei orchymyn ar 9 Medi.
Casgliad yr archwiliad hwnnw oedd bod y farwolaeth yn un annaturiol.
'Colled enfawr'
Yn dilyn ei farwolaeth, cafodd Mr Owen ei ddisgrifio fel ffermwr “gweithgar a chydwybodol”.
Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol yn dilyn y farwolaeth, dywedodd David Prysor ar ran Pwyllgor Sioe Ardal Maesywaen ei bod yn “dristwch o’r mwyaf… i glywed am y newyddion brawychus o farwolaeth Islwyn Owen, Cefn Bodig.
“Roedd Islwyn yn aelod gweithgar ymysg trefnwyr y sioe ac un o gefnogwyr mwyaf brwd i weithgareddau'r Sioe o'r dechrau.
“Roedd Islwyn yn amaethwr heb ei ail ac yn ymfalchïo yn ansawdd ei stoc. Bydd colled enfawr ar ei ôl.”