Newyddion S4C

Y Ceidwadwyr Cymreig i bleidleisio ar ddyfodol Andrew RT Davies fel arweinydd

03/12/2024
Andrew RT Davies

Bydd Andrew RT Davies yn wynebu pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth ddydd Mawrth.

Fe ddaeth y penderfyniad i gynnal pleidlais wedi cyfarfod i drafod ei ddyfodol yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig brynhawn dydd Iau diwethaf.

Roedd Andrew RT Davies wedi galw am bleidlais yn eu cyfarfod grŵp ddydd Mawrth.

Mae disgwyl i'r bleidlais fod yn un agos iawn.

Mae Mr Davies wedi bod yn y swydd ers 2021. Dyma yw ei ail gyfnod fel arweinydd y blaid yn y Senedd wedi iddo hefyd fod yn arweinydd rhwng 2011 a 2018. Cafodd ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf yn 2007.

Mae rhai o'i sylwadau yn y flwyddyn ddiwethaf wedi cael eu beirniadu gan rai o'i gyd-aelodau yn y blaid.

Cerydd 

Ym mis Gorffennaf, dywedodd fod plant ysgol ym Mro Morgannwg yn "cael eu gorfodi" i fwyta cig Halal - honiad gafodd ei wrthod gan yr ysgol. Cafodd ei sylwadau eu beirniadu gan Gyngor Mwslemaidd Cymru, a gyhuddodd Mr Davies o hiliaeth.

Hefyd fe fynegodd nifer o Geidwadwyr Cymreig amlwg bryder am ei eiriau, gan gynnwys ei gyd-aelod Mwslemaidd, Natasha Asghar.

Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, fe ofynnodd i ymwelwyr â Sioe Sirol Bro Morgannwg "bleidleisio" mewn blwch a ddylid diddymu'r Senedd neu beidio.

Fe gafodd gerydd swyddogol ym mis Hydref ar ôl i Bwyllgor Safonau’r Senedd ddweud ei fod wedi dwyn anfri ar y Senedd drwy alw terfyn cyflymder 20mya Cymru yn bolisi “blanced”.

Mae'r tri arolwg barn ddiweddaraf ar etholiadau’r Senedd wedi awgrymu fod y Ceidwadwyr yn y 4ydd safle, neu’n gydradd gyda Reform yn 3ydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.