Rhoddwyr sberm ar y We: Annog menywod i fod yn wyliadwrus
Rhoddwyr sberm ar y We: Annog menywod i fod yn wyliadwrus
Mae’r gyflwynwraig Jess Davies yn annog menywod sydd yn ystyried defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ganfod rhoddwyr sberm er mwyn beichiogi i fod yn wyliadwrus.
Fel rhan o’i rhaglen newydd, Sberm ar y We, mae Jess Davies wedi siarad gyda menywod sydd yn defnyddio Facebook yn benodol er mwyn dod o hyd i roddwr sberm yn uniongyrchol, heb gymorth meddygol swyddogol.
Mae’n dweud fod miloedd o fenywod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i roddwyr sberm “ac mae miloedd o ddynion yn barod i roi.”
Ond mae’n rhybuddio fod ‘na beryg y gallai dynion gymryd mantais o fenywod.
“Pan nes i ddechrau edrych mewn i nhw ar y grwpiau [ar Facebook] o’n i ‘di sylweddoli faint mor poblogaidd odd y grwpiau.
“Mae un grŵp gyda 40,000 o aelodau ac o’n i jyst yn meddwl ‘Is this regulated? What are the complexities around this?’
“Pryd nes i ymuno gyda un o’r grwpiau, literally yn syth nes i cael negeseuon o ddynion yn cynnig sberm i fi, yn gofyn i gael rhyw.
“Odd e’n teimlo bach yn predatory.
“O’n i byth ‘di postio yn y grŵp, o’n i byth dwi dweud bod fi’n chwilio am help na dim byd felly oedd dynion yn edrych ar bwy sy’n ymuno a wedyn anfon negeseuon,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
'Synnu'
Esboniodd Ms Davies fod yna ffyrdd gwahanol o dderbyn sberm gan roddwr: “Mae ‘na AI sydd yn ‘artificial insemination’ ac NI sef ‘natural’ sy’n trwy ryw.
“O’n i rili ‘di cael fy synnu bod y byd ma’n bodoli a bod dim lot o regulations, neu dim regulations o gwbl rownd e.
“Mae 'na hefyd PI sydd yn ‘partial insemination’ felly dyna ble mae lot o blurred lines lle mae hwnna’n meddwl bydd y dyn yn ‘cael ei hun yn agos’ a wedyn cael rhyw efo’r merch.”
Ni chafodd rhaglen Sberm ar y We ymateb gan gwmni Meta ynglŷn â defnydd pobl o’r cyfrwng er mwyn dod o hyd i roddwyr sberm.
Ond mewn datganiad blaenorol fe ddywedodd llefarydd: “Gwyddom y gall Facebook fod yn blatfform lle mae pobl yn siarad am amrywiaeth o faterion personol a meddygol.
“Rydym yn caniatáu hyn ond mae gennym reolau penodol yn erbyn aflonyddu ac erfyniad rhywiol (sexual solicitation) i helpu i wneud yn siwr bod pobl yn ddiogel.”
'Grey area'
Mae’r gyflwynwraig yn rhybuddio y gallai menywod wynebu sefyllfa beryglus os y bydden nhw yn trefnu cyfarfod a rhoddwr sberm ar-lein heb wneud “lot o ymchwil.”
“Wrth gwrs, mae lot o fenywod sy’n edrych am roddwr sberm mewn perthynas un rhyw a dyna pam maen nhw’n edrych am dyn i helpu nhw.
“Dyna pam oedd e’n teimlo’n predatory achos mae lot o fenywod byth ‘di cael rhyw gyda dyn o’r blaen.”
Mae’n dweud bod nifer o fenywod yn troi at y cyfryngau cymdeithasol er mwyn dod o hyd i roddwyr sberm gan fod cyfyngiadau gyda’r GIG o ran pwysau ac oedran menywod. Hefyd mae'n gostus yn y sector breifat.
Mae'n erbyn y gyfraith i dalu person am ei sberm yn y DU. Ond mae pobl yn medru talu treuliau'r unigolyn.
“So doedd ‘na ddim specifics, it was just train travel or a hotel. Ond again there’s grey area around that.”
Beichiogi
Mae Jess Davies yn cydnabod bod nifer o fenywod wedi beichiogi yn ddiogel a’n llwyddiannus trwy roddwyr sberm y maen nhw wedi canfod ar-lein.
Ond mae’n annog menywod i fod yn wyliadwrus o “agenda cudd” rhai dynion.
“Mae na ddynion mas na sydd yn hapus i helpu menywod am ddim ac mae 'na llwyth o fenywod sydd wedi bod yn llwyddiannus trwy hwnna, jest yn defnyddio AI.
“Ond oedd na’r ochr ‘ma lle oedd ‘na agenda cudd, lle oedd ‘na lot o ddynion yn pusho, lle o’n nhw jest yn dweud eu bod yn edrych am NI.
“Neu yn y grwpiau ‘ma oedd menywod yn rhannu bod nhw wedi trafod gyda rhoddwr i trefnu cwrdd a wedyn last minute maen nhw’n dweud, ‘Actually, only if ni’n cael rhyw’.
“Mae ‘na dau ochr rili.”
Bydd modd gwylio Jess Davies - Sberm ar y We ar S4C am 21.00 nos Fawrth ac ar BBC iPlayer a Clic.