Newyddion S4C

Cais i droi hen siop sglodion ym Mangor yn fflatiau i'r digartref

03/12/2024
Stryd y Deon

Fe allai hen siop sglodion yng nghanol dinas Bangor gael ei dymchwel i wneud lle ar gyfer fflatiau i bobl sydd “mewn llety dros dro neu’n ddigartref”.

Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais cynllunio llawn i ddymchwel yr hen siop Dean Street Chippy and Cafe, sydd wedi mynd a'i phen iddi dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r gymdeithas dai Adra eisiau adeiladu pedwar fflat un llofft ar y safle.

Yn ôl dogfennau a gyflwynwyd i’r cyngor, mae’r safle’n cynnwys “y prif adeilad ac iard gefn tir llwyd sydd wedi tyfu’n wyllt gydag adeiladau allanol bach wedi’u lleoli ar gornel Stryd y Deon a Stryd Panton”.

Mae’r cynlluniau’n datgan: “Bydd Adra yn darparu pedwar fflat rhent cymdeithasol fforddiadwy yn y cynllun hwn a fydd yn cael eu targedu at unigolion mewn llety dros dro neu’n ddigartref neu’n ailsefydlu.”

Roedd yr uned fasnachol wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn gyda chyflwr yr adeilad “yn dirywio fyth ers hynny”.

“Nid yw’r safle wedi’i gynnal a’i gadw, mae wedi gordyfu ac wedi dod yn ddolur i'r llygad yn yr amgylchedd lleol, mewn ardal sydd mor agos at ganol y ddinas,” meddai’r cynlluniau.

Fe wnaethant ychwanegu: “Mae’r safle wedi bod yn wag ers i’r siop pysgod a sglodion roi’r gorau i fasnachu ar ddiwedd 2022. 

“Gan nad yw’r safle wedi’i reoli, mae wedi gordyfu ac yn falltod ar yr amgylchedd lleol.”

Byddai'r cynllun newydd yn gweld datblygu dau gartref llawr gwaelod a dau gartref llawr cyntaf.

Dywed y cynlluniau: “Fel rhan o’r cynnig, mae Adra [yn] edrych i ddymchwel adeilad o ansawdd gwael nad yw’n cyfateb i iaith bensaernïol yr anheddau brics coch ar hyd Stryd y Deon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.