Nigel Farage ar frig arolwg barn fel yr arweinydd plaid gorau
Mae arolwg barn newydd yn awgrymu mai Nigel Farage yw'r arweinydd plaid sydd gyda'r ganran uchaf yn credu ei fod yn gwneud ei swydd yn dda yng Nghymru.
Mae'r arolwg Barn Cymru diweddaraf gan YouGov ar gyfer ITV Cymru Wales a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn awgrymu bod 34% o ymatebwyr yn credu bod Nigel Farage yn gwneud 'gwaith da' fel arweinydd plaid Reform UK.
Dim ond 23% oedd yn credu bod Eluned Morgan yn gwneud gwaith da fel prif weinidog.
Mae cefnogaeth i Rhun ap Iorwerth fel arweinydd Plaid Cymru yn uwch nag un y prif weinidog, ar 28%.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, sydd â’r ganran isaf ar 17%.
Fe gafodd 1,121 o etholwyr yng Nghymru sy'n hŷn na 16 oed eu holi rhwng 25 a 29 Tachwedd.
Etholiad y Senedd
Mae'r arolwg hefyd wedi awgrymu mai Plaid Cymru sydd ar y blaen o drwch blewyn o ran bwriad pobl wrth bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru.
Mae Llafur Cymru a Reform UK yn gyfartal yn yr ail safle.
Mae'r arolwg Barn yn awgrymu bod Plaid Cymru ar y blaen o un pwynt gyda 24% o'r bleidlais, gyda Llafur Cymru a Reform UK yn ail gyda 23% o'r bleidlais.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi disgyn i'r pedwerydd safle gyda 19% o'r bleidlais.
Yn ôl Dr Jac Larner o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae hwn yn arolwg barn digynsail.
"Dyma'r arolwg barn YouGov cyntaf ers 2010 sydd wedi rhoi Plaid Cymru ar y blaen o ran sut y mae pobl yn bwriadu pleidleisio yn y Senedd," meddai.
Ychwanegodd Dr Larner fod yr arolwg barn yn awgrymu fod Reform UK yn gyfartal â safle uchaf erioed Plaid Brexit yn yr arolygon barn.
"Er bod y prif ganlyniadau yn ddramatig, dim ond un arolwg barn ydy hwn wrth gwrs ac mae'n rhaid i ni gofio ein bod ni'n gofyn i bobl ystyried sut y byddent yn pleidleisio gan ddefnyddio system etholiadol na fydd llawer iawn yn gyfarwydd ag ef mewn etholaethau nad ydynt yn bodoli eto," meddai.
"Mae'n debygol y bydd y sefyllfa'n amrywio dipyn yn y 18 mis nesaf," meddai.