Newyddion S4C

Absenoldeb y Wal Goch ‘o fantais’ i Gymru yn Nulyn

03/12/2024
Cymru v Gweriniaeth Iwerddon

Fe fydd absenoldeb y Wal Goch o fantais i Gymru wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon i gyrraedd Euro 2025 yn ôl un sylwebydd.

Yn ôl cyn-ymosodwr Cymru, Gwennan Harries,  bydd y “pwysau i gyd ar dîm Gweriniaeth Iwerddon” yn y gêm dyngedfennol yn Nulyn nos Fawrth. 

Mae’r canlyniad yn dal i fod yn y fantol ar ôl i’r ddau dîm chwarae gêm gyfartal 1-1 yng nghymal cyntaf rownd derfynol gemau ail-gyfle Euro 25.

25,000 o docynnau sydd wedi eu gwerthu ar gyfer y gêm. Mae Gwennan Harries yn argyhoeddedig y bydd yr awyrgylch o fantais i Gymru.

“D’yw Cymru ddim yn hoffi’r tag o fod yn ffefrynnau, ‘da ni’n chwarae’n well pan nad ydan ni dan y pwysau hynny.

“Bydd llwyth o bwysau ar Weriniaeth Iwerddon. Bydd mwy o bwysau arnyn nhw i ddod allan a chwarae a dwi ddim yn credu bod hwnna’n siwtio nhw.

“Roedd Cymru’n rhwystredig gyda’r perfformiad yn yr ail hanner nos Wener a heb cymryd y mantais i mynd i mewn i’r ail gêm.

“Dwi ddim yn disgwyl llawer o newidiadau falle un neu ddau tactegol," meddai. 

Dyma o bosib fydd cyfle olaf seren fwyaf Cymru i gyrraedd un o brif gystadlaethau’r gamp.

Mae Jess Fishlock sydd yn 37 oed, wedi bod yn allweddol i lwyddiant a datblygiad y gamp am flynyddoedd. Mae hi wedi ennill 156 o gapiau dros ei gwlad. 

Fe wnaeth y garfan ymarfer yng Nghaerdydd ddydd Sul cyn teithio i Ddulyn.

'Angerdd a balchder'

Mae'r prif hyfforddwr Rhian Wilkinson wedi dweud gall y tîm “berfformio’n well” â'i bod hi’n “disgwyl gwelliannau” nos Fawrth.

Dywedodd: “Mae'r tîm yn hoffi gwneud pethau mewn ffordd anodd. Mae'r tîm yn ffynnu ar adfyd felly dwi'n edrych ymlaen at berfformiad anhygoel yn Nulyn”.

Mae’r capten, Angharad James, hefyd yn teimlo bod rhagor i ddod yn Nulyn.

Dywedodd: “Mae’n ddarbi ac yn gêm sy’n golygu llawer i’r ddau dîm.

“Rydym yn mynd â chanlyniad da draw i Ddulyn a byddwn yn rhoi popeth sydd gennym.

“Fe wnaethon ni ddangos ein hangerdd a balchder i wisgo’r crys. Byddwn yn mynd â hynny i mewn i'r perfformiad nesaf, ond byddwn yn ail-grwpio ac yn edrych ar sut y gallwn wella ar gyfer dydd Mawrth. 

"Fel grŵp rydym yn gwybod y gallwn fod yn well, nid dyna oedd y perfformiad gorau o bell ffordd."

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.