Newyddion S4C

Cwest Islwyn Owen: Crwner yn cofnodi marwolaeth 'cwbl ddamweiniol'

Islwyn Owen

Mae crwner wedi cofnodi marwolaeth "cwbl ddamweiniol" yn achos ffermwr o Ladderfel ger y Bala a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn pwll slyri ar ei fferm yn gynharach eleni. 

Bu farw Islwyn Owen, 67 oed, mewn digwyddiad ar fferm Cefn Bodig ar 4 Medi.

Clywodd cwest i'w farwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Mawrth ei fod wedi disgyn i'r tanc slyri tra'n addasu cymysgydd ('mixer') gerllaw.

Dywedodd Kate Robertson, Uwch Grwner Ei Fawrhydi ar gyfer gogledd orllewin Cymru wrth y cwest y byddai wedi gwneud y dasg sawl gwaith yn y gorffennol. 

Dywedodd y crwner wrth ei weddw Margaret: “Mae’n hynod drist a thrawmatig iddo ef, a chi gyd, ei fod wedi marw o dan yr amgylchiadau hyn. Roedd yn anfwriadol ac yn annisgwyl y byddai’n digwydd.”   

Ychwanegodd ei fod yn “adnabyddus iawn ac yn uchel ei barch” o fewn y gymuned leol.  

Cafodd yr heddlu eu hysbysu ar ôl i’r ffermwr, oedd yn cadw defaid a gwartheg, fethu â dychwelyd adref i gael swper. 

Roedd ffermwr cyfagos wedi dod o hyd iddo yn y pwll slyri 10 troedfedd o ddyfnder.   

Clywodd y cwest fod Mr Owen wedi'i anafu a'i fod wedi dioddef asffycsia ar ôl syrthio i'r pwll oedd yn cynnwys cymysgydd slyri.   

“Mae wir yn set drasig o amgylchiadau,” meddai y crwner.

'Colled enfawr'

Yn dilyn ei farwolaeth, cafodd Mr Owen ei ddisgrifio fel ffermwr “gweithgar a chydwybodol”.

Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol yn dilyn y farwolaeth, dywedodd David Prysor ar ran Pwyllgor Sioe Ardal Maesywaen ei bod yn “dristwch o’r mwyaf… i glywed am y newyddion brawychus o farwolaeth Islwyn Owen, Cefn Bodig".

“Roedd Islwyn yn aelod gweithgar ymysg trefnwyr y sioe ac un o gefnogwyr mwyaf brwd i weithgareddau'r Sioe o'r dechrau," meddai.

“Roedd Islwyn yn amaethwr heb ei ail ac yn ymfalchïo yn ansawdd ei stoc. Bydd colled enfawr ar ei ôl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.