Newyddion S4C

Brwydr hollbwysig rhwng Cei Connah a Chaernarfon yn y Cymru Premier JD

Sgorio 03/12/2024
Caernarfon

Roedd hi’n benwythnos o seibiant i’r rhan fwyaf o glybiau’r Cymru Premier JD, ond mae pethau’n prysuro eto gyda phump o gemau cynghrair i’w chwarae yng nghanol wythnos.

Pum rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn y gynghrair a does dim ond chwe phwynt yn gwahanu’r pum clwb rhwng y 5ed a’r 9fed safle.

Bydd hi’n frwydr hollbwysig rhwng Cei Connah a Chaernarfon nos Fawrth felly, gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu’r ddau dîm yng nghanol y tabl.

Yn hanesyddol, 31 pwynt yw’r swm sydd ei angen i hawlio lle’n y Chwech Uchaf. Mae Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd eisoes wedi pasio’r targed hwnnw. Dyw Hwlffordd a Met Caerdydd ddim rhy bell ar eu holau.

Ar ôl colled hwyr yn erbyn Y Seintiau Newydd yn eu gêm ddiwethaf, bydd y ceffylau blaen, Pen-y-bont, yn gobeithio osgoi bagliad arall mewn gêm galed yn erbyn Hwlffordd.

Nos Fawrth, 3 Rhagfyr

Cei Connah (7fed) v Caernarfon (6ed) | Nos Fawrth – 19:45 

Chwaraeodd Cei Connah a Chaernarfon yn Ewrop dros yr haf ar ôl gorffen y tymor diwethaf yn yr hanner uchaf. Ond mae’r ddau glwb ymhell o fod yn saff o’u lle yn y Chwech Uchaf eleni.

Dau bwynt sy’n gwahanu’r timau yn y 6ed a’r 7fed safle, ond mae gan Gaernarfon gêm wrth gefn.

Mae cynffonnau Cei Connah yn uchel ar ôl ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf.

Mae bron i fis wedi mynd heibio ers i Gaernarfon chwarae ddiwethaf ar y 9fed o Dachwedd mewn buddugoliaeth o 1-0 oddi cartref yn Llansawel, gan ddod â rhediad o bum gêm heb ennill i ben.

Mae’r timau eisoes wedi cyfarfod ddwywaith y tymor hwn, gyda Chei Connah yn ennill gartref yng Nghwpan Nathaniel MG, a Chaernarfon yn ennill gartref yn y gynghrair.

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ͏✅❌✅❌✅

Caernarfon: ❌❌➖❌✅

Llansawel (11eg) v Y Drenewydd (9fed) | Nos Fawrth – 19:45

Wedi buddugoliaeth syfrdanol yn erbyn Y Seintiau Newydd bythefnos yn ôl, Llansawel oedd y pedwerydd tîm i guro’r pencampwyr yn y gynghrair y tymor hwn.

Ond fel y tri chlwb arall o’u blaenau, fe fethodd Llansawel ag ennill eu gêm ganlynol gan golli o 2-1 yn erbyn Y Fflint.

Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhump o’r chwe thymor diwethaf. Er iddyn nhw orffen yn 7fed yn nhymor 2020/21 fe aethon nhw ymlaen i ennill y gemau ail gyfle a chamu i Ewrop ar ddiwedd yr ymgyrch hwnnw.

Ond tydi’r sefyllfa ddim yn edrych mor addawol eleni gan fod y Robiniaid ar rediad o chwe gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth, ac wedi syrthio o’r trydydd i’r nawfed safle.

Roedd un gôl gan Aaron Williams yn ddigon i selio’r fuddugoliaeth i’r Drenewydd yn y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau glwb ym mis Medi. Bydd Callum McKenzie yn ysu am ganlyniad tebyg er mwyn ennill ei bwyntiau cyntaf i’r clwb ers cael ei benodi’n rheolwr.

Record cynghrair diweddar: 

Llansawel: ❌✅❌✅❌

Y Drenewydd: ͏❌❌➖❌❌

Pen-y-bont (1af) v Hwlffordd (3ydd) | Nos Fawrth – 19:45

Bydd dau amddiffyn cryfaf y gynghrair yn cyfarfod yn Stadiwm Gwydr SDM nos Fawrth wrth i Ben-y-bont geisio dal eu gafael ar eu lle ar frig y tabl.

Gorffennodd y ddau glwb yma yn yr hanner isaf y tymor diwethaf. Ond mae’r timau wedi codi’r safon y tymor hwn ac yn edrych yn hynod gyfforddus yn yr hanner uchaf.

Roedd hi’n ergyd drom i obeithion Rhys Griffiths o gipio’r bencampwriaeth o grafangau’r Seintiau pan sgoriodd Danny Redmond wedi 89 o funudau i selio triphwynt dramatig i gewri Croesoswallt yn eu gêm ddiwethaf (YSN 3-2 Pen).

Honno oedd colled gyntaf Pen-y-bont oddi cartref yn y gynghrair ers Rhagfyr 2023.

Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 8 gôl mewn 17 gêm), ond dim ond y ddau isaf sydd wedi sgorio llai na’r Adar Gleision (20 gôl).

Dim ond 28 gôl sydd wedi eu sgorio yn 17 gêm gynghrair Hwlffordd y tymor hwn (cyfartaledd o 1.6 gôl y gêm) sy’n profi pa mor dynn yw gemau’r Adar Gleision eleni.

Mae tîm Tony Pennock yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chwtogi i 12 tîm.

31 o bwyntiau ydi’r swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, a byddai pwynt i Hwlffordd nos Fawrth yn ddigon i gyrraedd y targed hwnnw.

Ond dyw Hwlffordd heb sgorio yn eu pedair gornest ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont.

Ac ers eu dyrchafiad yn ôl i’r Cymru Premier JD yn 2020 mae Hwlffordd wedi colli pob un o’u pum gêm gynghrair oddi cartref ym Mhen-y-bont.

Record cynghrair diweddar: 

Pen-y-bont: ͏➖➖✅✅❌

Hwlffordd: ✅➖✅❌➖
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.