Carcharu dyn 81 oed am ymosod yn rhywiol ar ddwy ferch ifanc
Mae dyn yn ei 80au wedi’i garcharu am ymosod yn rhywiol ar ddwy ferch ifanc yng Nghaerdydd.
Fe blediodd Royston Gill, 81 oed, yn euog o ddau achos o ymosod ar ferch o dan 13 oed trwy gyffwrdd ym mis Awst 2023 a mis Gorffennaf 2024.
Cafodd ddedfryd estynedig o naw mlynedd yn cynnwys pum mlynedd dan glo a chyfnod trwydded o bedair blynedd.
Cafodd Mr Gill o Ogledd Llandaf ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 27 Tachwedd.
Clywodd y llys ei fod yn peri risg sylweddol i blant er ei fod yn ymddangos yn fregus.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rhiannon Phillips o Heddlu De Cymru ei bod eisiau canmol “dewrder y dioddefwyr” wedi iddyn nhw gysylltu â’r heddlu.
“Mae wedi bod yn gyfnod trawmatig i bawb dan sylw ac rwy’n gobeithio y byddai’r canlyniad llys yn cynnig ychydig o gysur", meddai.
Dywedodd bod Heddlu De Cymru yn cymryd trais rhywiol “o ddifrif” a’u bod yn annog dioddefwyr i gysylltu ar bob achlysur.