Newyddion S4C

Tair adran o Gyngor Gwynedd wedi gorwario dros £1 miliwn yr un

02/12/2024
Cyngor Gwynedd

Fe wnaeth tair adran wahanol o Gyngor Gwynedd orwario dros £1m yr un yn 2023-24, yn ôl adroddiad newydd.

Allan o gyfanswm o 11 adran y cyngor, roedd chwech ohonyn nhw wedi gorwario yn ystod y cyfnod dan sylw.

Mae'r gorwario yn cael ei ddisgrifio mewn adroddiad newydd gan Archwilio Cymru sydd wedi ei gyhoeddi ddydd Llun.

Archwilio Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am archwilio y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru.

'Cynnydd sylweddol'

Dywedodd yr adroddiad bod eu harchwilwyr wedi darganfod "cynnydd sylweddol yn y nifer o adrannau’r Cyngor sydd yn gorwario yn y ddwy flwyddyn ariannol ddiwethaf, a mae wedi datblygu trefniadau i adolygu ei gyllidebau".

Esboniodd yr archwilwyr bod "gorwario o fewn gwasanaethau wedi cynyddu yn ddiweddar, a mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi bod angen dod i’r afael a hyn i fod yn gynaliadwy wrth iddynt osod cyllidebau blynyddol a cynlluniau hirdymor. 

"Er enghraifft, mae ei adroddiad refeniw alldro 2023-24 yn nodi cyfanswm sefyllfa gorwariant o dros £9 miliwn gan wasanaethau ar ddiwedd y flwyddyn. Yn yr un modd, yn 2022-23 gorwariodd gwasanaethau gyfanswm o dros £10 miliwn," medden nhw.

Refeniw alldro ('Revenue outturn expenditure')  yw'r union wariant mewn blwyddyn wedi ei gymharu gyda'r gyllideb oedd wedi ei gosod.

Arian wrth gefn

Disgrifiodd yr archwilwyr ddefnydd Cyngor Gwynedd o gronfeydd ariannol wrth gefn er mwyn ariannu diffyg yn y gyllideb graidd ag ymateb i orwariant ar ddiwedd y flwyddyn:

"Mae gan y Cyngor lefelau gymharol uchel o gronfeydd wrth gefn ariannol sydd wedi cronni dros nifer o flynyddoedd. 

"Mae gan y Cyngor dair cronfa ar gyfer ariannu gofynion gwariant un tro, i ymdrin â gorwariant, neu i bontio cyn i arbedion ddod i rym. Mae cyfanswm y cronfeydd hyn wedi cwympo o £23.874 miliwn i £11.153 miliwn yn ystod 2023-24.

"Mae’r Cyngor yn cydnabod nad yw defnydd parhaol o gronfeydd i osod cyllideb nac i ymateb i orwariant yn ddatrysiad cynaliadwy. 

"Tra bod defnydd o gronfeydd yn ymateb i’r pwysau cyfredol, mae yn lleihau’r balansau sydd ar gael i’r Cyngor i gefnogi trawsnewid ac ailfodelu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol."

Strategaeth hirdymor

Daeth Archwilio Cymru i'r casgliad nad oedd Cyngor Gwynedd wedi gweithredu strategaeth hirdymor eto i gefnogi ei gynaliadwyedd ariannol, er ei fod wedi dechrau datblygu dull strategol, "er enghraifft drwy sefydlu trefniadau i asesu effaith gwasanaethau ar ddinasyddion, a deall elfennau statudol a dewisol gwahanol swyddogaethau."

"Mae hefyd wedi gwneud ymchwil i ddeall maint a natur y galw hirdymor mewn gwasanaethau oedolion," medden nhw.

"Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod cynigion arbedion yn cael eu harfarnu'n seiliedig ar eu heffaith ddisgwyliedig ar ddinasyddion, nawr ac yn y dyfodol."

Dywedodd Archwilio Cymru ar ddechrau'r adroddiad eu bod yn cydnabod yr "heriau ariannol digynsail y mae cynghorau wedi'u hwynebu ers blynyddoedd lawer ac rydym yn debygol o barhau i'w hwynebu am o leiaf y tymor canolig."

Roedd hyn yn cynnwys pwysau ariannu'r sector cyhoeddus a ddilynodd yr argyfwng ariannol yn 2008 ac effaith y pandemig ar y pryd a'i ôl effeithiau. 

"Yn fwy diweddar mae cynghorau hefyd wedi wynebu gostyngiadau sylweddol mewn termau real mewn pŵer gwario o ganlyniad i'r cynnydd cyflymaf mewn chwyddiant ers degawdau...Mae'r ffactorau hyn yn bennaf y tu hwnt i reolaeth unrhyw gyngor unigol."

Mae argymhelliant Archwilio Cymru i Gyngor Gwynedd yn cynnwys "gweithredu strategaeth ariannol hirdymor sy'n cefnogi ei ddealltwriaeth o'i sefyllfa ariannol tymor canolig ac yn llywio ei drawsnewid a'i flaenoriaethu gwasanaethau."

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Gyngor Gwynedd am ymateb.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.