‘Camddefnydd’: Trump yn beirniadu'r Arlywydd Biden am roi pardwn i’w fab ei hun
Mae Donald Trump wedi beirniadu Arlywydd America, Joe Biden, ar ôl iddo roi pardwn "llawn a diamod" i’w fab Hunter.
Roedd Hunter Biden yn wynebu dedfryd fis nesaf ar ôl ei gael yn euog o fod â gwn yn ei feddiant ac yntau’n ddefnyddiwr o gyffuriau anghyfreithlon. Roedd hefyd wedi pledio’n euog i droseddau trethi.
Roedd ei dad, Joe, wedi dweud fis Mehefin na fyddai yn defnyddio ei rym i roi pardwn arlywyddol i Hunter, 54 oed, na chwaith lleihau ei ddedfryd.
Ond nos Sul, daeth y cyhoeddiad bod Mr Biden wedi rhoi "pardwn llawn a diamod", gydag ychydig dros fis yn weddill o’i gyfnod fel Arlywydd.
Dywedodd Joe Biden “nad oedd unrhyw synnwyr mewn oedi’r peth ymhellach” ar ôl penderfynu dros y penwythnos i roi’r pardwn.
Fe ychwanegodd bod ei fab wedi cael ei “erlyn yn annheg” oherwydd bod “gwleidyddiaeth wedi heintio’r broses”, a'i fod yn gobeithio y byddai “Americanwyr yn deall pam y byddai tad ac Arlywydd yn gwneud y penderfyniad hwn”.
Dywedodd Hunter Biden ei fod wedi “cyfaddef a chymryd cyfrifoldeb am fy nghamgymeriadau yn ystod fy nyddiau tywyllaf â dibyniaeth ar gyffuriau.”
Roedd Donald Trump, a fydd yn olynu Mr Biden fel Arlywydd fis Ionawr, yn feirniadol iawn o’r penderfyniad, gan ei alw yn “gamddefnydd ac yn gamgymeriad cyfiawnder”.
Mae’n arferiad i arlywyddion sydd yn ymadael i roi pardynau cyn gorffen eu cyfnod yn y Tŷ Gwyn.
Fe wnaeth Mr Trump roi dros 100 o bardynau yn ystod ei dymor cyntaf fel arlywydd, gyda’r mwyafrif yn ystod misoedd olaf ei gyfnod yn y swydd.
Mae pardynau arlywyddol yn diddymu hen euogfarnau am droseddau ffederal.
Llun: Wochit/AFP