Cynnig i redeg tafarn hanesyddol y Ring yn Llanfrothen yn cael ei dderbyn
Mae cynnig gan fenter gymunedol i redeg tafarn hanesyddol y Ring yn Llanfrothen yng Ngwynedd wedi cael ei dderbyn.
Gobaith yr ymgyrchwyr o'r gymuned leol oedd prynu prydles Y Brondanw Arms, sy’n cael ei hadnabod fel y Ring, er mwyn rhedeg y dafarn fel menter gymunedol.
Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd Menter Y Ring Cyf fod "ein cynnig am brydles Y Ring wedi cael ei dderbyn.
"Hoffwn ddiolch i chi gyd am eich holl gefnogaeth. Mae'r gwaith caled yn dal i barhau er mwyn sichau dyfodol ein tafarn."
Mae'r neges hefyd yn nodi mai'r cam nesaf yn y broses fydd casglu arian cyfranddaliadau.
Dywedodd un o’r ymgyrchwyr Dafydd Emlyn wrth Newyddion S4C ym mis Medi eu bod nhw wedi sicrhau y "pris gofyn a mwy" gan unigolion.
Roedd hynny’n cynnwys cytundebau benthyg ffurfiol o rhwng £500 a £25,000 gan unigolion yn ôl Mr Emlyn.
Mae'r dafarn yn rhan o Ystâd Brondanw, a gafodd ei sefydlu gan bensaer pentref Eidalaidd Portmeirion, Syr Clough Williams-Ellis.
Fe gafodd Menter Y Ring ei hysbrydoli i achub y dafarn yn dilyn sawl ymgyrch lwyddiannus gan gymunedau eraill i droi eu tafarndai yn fentrau cymunedol.
Mae’r rheini’n cynnwys Tafarn Y Plu yn Llanystumdwy, a Thafarn y Fic yn Llithfaen.