Llyncdwll wedi effeithio ar 30 o gartrefi ym Merthyr Tudful
Mae llyncdwll neu sinkhole wedi effeithio ar ryw 30 o gartrefi ym Merthyr Tudful.
Mae pobl wedi gorfod gadael eu cartrefi ar stad Nant Morlais ym mhentref Pant ar gyrion y dref.
Y gred yw bod ffos wedi cwympo gan greu twll mawr ar y stad.
Roedd glaw trwm yn yr ardal dros y penwythnos, a hynny wythnos ers Storm Bert.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Merthyr Tudful: "Mae swyddogion y cyngor a'r heddlu wedi bod yn bresennol yn Nant Morlais drwy gydol y bore yn gweithio gydag asiantaethau eraill ar safle'r llyncdwll.
"Does dim angen cymorth na chefnogaeth ychwanegol ar hyn o bryd ond diolch i bawb sydd wedi cynnig gwneud. Diogelwch ydi ein prif flaenoriaeth.
"Er mwyn caniatáu i beirianwyr barhau i weithio yn ddiogel, plis cadwch draw o'r ardal."
Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn "delio â digwyddiad ar stad Nant Morlais. Mae'r ffordd ar hyn o bryd ar gau i'r ddau gyfeiriad."
Llun: Cyngor Merthyr Tudful