Enwebiad gwobr canu gwerin ledled y DU yn 'gosod diwylliant Cymru ar y map'
Mae artist o Geredigion sydd wedi derbyn enwebiad am y wobr canu gwerin gyntaf o'i bath ledled y DU yn dweud ei fod yn falch o "osod diwylliant Cymru ar y map."
Cafodd Owen Shiers, sydd yn perfformio dan yr enw 'Cynefin', ei enwebu ar gyfer Gwobr Albwm Gwerin y DU, sydd yn cael ei rhoi gan gwmni Sound Roots.
O Gapel Dewi ger Llandysul cafodd Owen ei gynnwys ar y rhestr fer am ei ail albwm 'Shimli' sydd "yn gymysgedd o ganeuon gwerin y sir, barddoniaeth y sir, a chyfweliadau a straeon gyda hen bobl y sir."
Mae artistiaid o'r Alban, Iwerddon a Lloegr hefyd wedi cael eu henwebu, gyda'r enillydd yn derbyn y wobr ar 17 Mawrth 2026.
Dywedodd Owen ei fod yn falch bod Cymru yn cael "cydnabyddiaeth" mewn gwobr o'r fath yma.
"Mae’n neis bod pobl yn gwerthfawrogi’r cerddoriaeth chi ‘di neud yn bersonol," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ond dwi mwy falch mewn ffordd bod Cymru wedi cael cynrychiolaeth mewn gwobr sydd ledled y Deyrnas Unedig.
"Ma’ ‘na artistiaid o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn cael eu cynrychioli neu wedi rhoi enwau ymlaen i gael enwebiad.
"Felly mae’n neis yn bersonol, ond mae’r sîn yng Nghymru mewn ffordd ‘di cae ei tan-gynrychioli ar draws y blynydde felly dwi’n falch bod Cymru yn cael cydnabyddiaeth.
"Mae e yn bwysig, ni’n wlad bach gyda iaith a diwylliant lleiafrifol a ma’n bwysig bod y diwylliannau ‘ma yn cael eu cynrychioli, gosod diwylliant Cymru ar y map fel petai."
'Tan-gynrychioli'
Mae cerddoriaeth yn rhan ganolog o fywyd Owen a'i deulu, gyda'i dad yn wneuthurwr telynau a'i fam yn canu.
Pan ddechreuodd diddordeb Owen mewn cerddoriaeth dyfu, roedd yn chwarae i ddechrau mewn bandiau roc, hip-hop a jazz.
Nid oedd ganddo ddiddordeb mewn canu gwerin tan oedd yn hŷn, ac mae'n credu bod y genre o gerddoriaeth yn cael ei "than-gynrychioli" yng Nghymru.
"Ma’ ‘na amryw o resymau pam bod canu gwerin yn cael eu tan-gynrychioli," meddai.
"Dyw’r sîn werin yng Nghymru ddim mor cryf â beth yw e yn Iwerddon, yr Alban a Lloegr, ma' hwnna’n ffaith rili.
"Allech chi fynd i unrhyw dafarn unrhyw nos o’r wythnos yn Iwerddon a ffindo cerddoriaeth a ma' hynny’n wahanol iawn yng Nghymru.
"Ma’r Eisteddfod ‘da ni ond dyw’r Eisteddfod ddim rili yn ŵyl celfyddydau traddodiadol yn yr un modd fydden i’n dweud a beth yw cerddoriaeth draddodiadol.
"A hefyd ma’ llai o arian os edrychwch chi ar faint syn cael eu gwario ar y celfyddydau traddodiadol yn Iwerddon a’r Alban o gymharu â Chymru."
Mae Cyngor Celfeddydau Cymru eisoes wedi dweud eu bod yn “tynnu sylw at yr angen i gerddoriaeth draddodiadol gael lle o fewn systemau addysg ffurfiol, gan gynnwys ysgolion ac addysg uwch.”
Fel rhan o gynllun gweithredu mae’r Cyngor yn dweud eu bod wedi “ymrwymo i fuddsoddi” mewn systemau sy’n rhoi mwy o gyfleoedd i gerddorion ifanc “ddarganfod a mwynhau” cerddoriaeth draddodiadol Gymraeg.
Yn ôl Owen Shiers, mae angen cefnogi'r celfyddydau "ar lawr gwlad" er mwyn i ganu gwerin ffynnu eto.
"Mae’n dechrau ffynnu bach nawr a ma’ mwy o diddordeb yn dod, ond yn hanesyddol ma’ ‘na resymau crefyddol a diffyg arian cyhoeddus a falle cydnabyddiaeth ei fod wedi cael ei tan-gynrychioli yng Nghymru ei hun," meddai.
"Ma’ angen cefnogi y celfyddydau ar lawr gwlad, a ma' hwnna’n cynnwys mwy o gerddoriaeth traddodiadol yn cael eu cynnal mewn tafarndai a llefydd cymunedol.
"A bod mwy o gynrychiolaeth yn cael eu rhoi yng Nghymru a thramor. Ma’n bwysig edrych ar gwledydd eraill fel Iwerddon a gweld shwt ma' nhw’n neud e achos ma' ysbryoliaeth yn gallu dod o lefydd fel hynny."
