Y bachgen côr o Gaernarfon a ddaeth yn dwyllwr rhyngwladol
Bydd rhaglen ddogfen newydd yn adrodd hanes bachgen côr o Gaernarfon a ddaeth yn dwyllwr rhyngwladol.
Yn blentyn roedd Kenner Elias Jones wedi cario'r groes a chanu yn seremoni Arwisgo Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969.
Fe aeth ymlaen i dreulio blynyddoedd yn smalio bod yn feddyg, offeiriad a phennaeth eluseni, gan hyd yn oed dwyllo ei wraig ei hun.
Bydd ei fywyd dwbl yn cael ei olrhain yn y flwyddyn newydd mewn rhaglen ddogfen newydd ar S4C, Con Jones: Twyllwr Gorau'r Byd, gan y cwmnïau cynhyrchu Cwmni Da ac Awen.
Dywedodd y cynhyrchydd Marc Edwards ei fod wedi bod yn dilyn hanes Mr Jones ers dros dri degawd.
"Mae Ken yn dipyn o gymeriad, ac yn rhywun sy'n gallu cyfareddu rhywun gyda'i bersonoliaeth," meddai.
"Mae'n gallu gwneud i chi deimlo mai chi yw'r person mwyaf diddorol a phwysig yn yr ystafell, a gall deilwra unrhyw stori i unrhyw sefyllfa ac i unrhyw unigolyn."
Ychwanegodd: "Mae yna swyn arbennig sy'n perthyn iddo – dw i erioed wedi dod ar ei draws neb tebyg iddo yn fy mywyd."
'Ges i fy nefnyddio'
Yn fuan ar ôl seremoni Arwisgo’r Tywysog, sef y Brenin Charles bellach, cofrestrodd Jones fel myfyriwr yng ngholeg Politechnig Sheffield lle helpodd y Blaid Ryddfrydol i ennill sedd ar gyngor y ddinas am y tro cyntaf ers blynyddoedd.
Yn ddiweddarach fe ddiflannodd gan adael dyledion ar ei ôl a chafodd ei ddedfrydu i dair blynedd ar brawf ar gyhuddiad o gael arian trwy dwyll.
Ond parhaodd y twyllo a rhoddwyd dwy ddedfryd arall o garchar i Mr Jones, yn Coventry a Llundain, cyn iddo ddychwelyd i ogledd Cymru.
Ar y promenâd yn Llandudno, yn ystod haf 1979, fe wnaeth Mr Jones swyno newyddiadurwr o Ganada a oedd yng Nghymru yn ymchwilio i'w choeden achau.
Fe wnaeth Lee McKenzie a Kenner Jones briodi yn ddiweddarach, gan symud i Vancouver yng Nghanada.
Ond daeth i'r amlwg fod Mr Jones wedi ysbeilio cynilion ei wraig am filoedd o bunnoedd.
Daeth yr heddlu i'r stiwdios teledu lle roedd hi'n gweithio i'w harestio ar ôl i Mr Jones ffugio ei llofnod a phasio sieciau yn ei henw.
Wrth gael ei chyfweld ar gyfer y rhaglen, dywedodd Lee McKenzie ei bod wedi cael ei "defnyddio" gan ei chyn ŵr.
"Fe ddes i wybod bod Ken Jones yn barod i werthu'r bobl yr oedd yn eu caru i lawr yr afon," meddai.
"Bûm yn crio am amser hir oherwydd bod y person roeddwn i wedi'i garu wedi fy mrifo a'm defnyddio."
O Ganada i Kenya
Ar ôl dychwelyd i Gymru o Ogledd America gyda'i ail wraig, Elsie, ymgeisiodd Kenner Jones am swydd gyda’r BBC yng Nghaerdydd.
Roedd un o’i hen gyfoedion ysgol, David Williams, yn olygydd rhaglen Wales Today ar y pryd ac yn aelod o'r panel a wnaeth ei gyfweld.
"Daeth i mewn ac roeddwn i'n gwybod yn syth pwy oedd o. Rhoddodd berfformiad gwych a chreu argraff dda ar bawb," meddai.
"Mi wnes i droi ato a gofyn oedd yn fy adnabod gan ein bod wedi bod yn yr ysgol gyda'n gilydd. Am eiliad llithrodd y mwgwd ond arhosodd yn hunanfeddiannol.
"Roedd y panel eisiau ei gyflogi ond dywedais wrthyn nhw ei fod wedi cael ei garcharu am dwyllo."
Dechreuodd swyddogion BBC Cymru ymchwilio i Kenner Jones, a oedd hefyd wedi creu argraff ar aelodau o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, gan ddod yn wirfoddolwr brwd ac annerch cynhadledd y blaid yng Nghonwy yn 1995.
Ar ôl marwolaeth ei wraig Elsie, roedd disgwyl iddo sefyll ei brawf am dwyll yn Llys y Goron Lewes yn 2003.
Ond y noson cyn yr achos, fe wnaeth Mr Jones ffoi o’r Deyrnas Unedig ac mae wedi bod a’i draed yn rhydd ers hynny.
Symudodd i Kenya a dechrau pennod newydd yn ei fywyd, pennod y mae Marc Edwards yn ei disgrifio fel un "dywyll iawn".
Cysylltodd Kenner Jones ag urdd Gatholig a dweud wrthynt ei fod wedi cael ei hyfforddi fel offeiriad Anglicanaidd.
Fe aeth ymlaen i weddïo gyda’r urdd yma a dysgodd emynau newydd iddynt.
Dywedodd hefyd ei fod yn feddyg wedi ymddeol a oedd wedi cynnal llawdriniaethau ar y galon a chlinigau i helpu pobl oedd yn dioddef o AIDS.
Yn ystod y cyfnod hwn yn Kenya dechreuodd berthynas â dynes leol a phenderfynodd ei phriodi.
"Doedd hi ddim yn briodas fach, a chynhaliwyd parti enfawr. Roedd Kenner wedi perswadio esgob i gynnal y gwasanaeth ac roedd yn gwisgo coler glerigol ac roedd Kenner yn ei elfen," meddai Mr Edwards.
Ond roedd biliau ddim yn cael eu talu a dechreuodd awdurdodau Kenya ymchwilio iddo. Mae Mr Jones bellach mewn cartref gofal yn yr Almaen.
Bydd 'Con Jones: Twyllwr Gorau'r Byd' i'w gwylio ar S4C yn y flwyddyn newydd.
