Campfa codi pwysau yn cynnig profiadau newydd i blant Llandudno

ITV Cymru

Campfa codi pwysau yn cynnig profiadau newydd i blant Llandudno

Mae campfa codi pwysau yn Llandudno yn cynnig profiadau newydd i blant yr ardal ac yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf i gynrychioli Cymru yn y gamp. 

Cymerodd Claire a Phil Higgins reolaeth o glwb Diamond Weightlifting nôl ym mis Ebrill eleni, pan oedd y clwb mewn perygl o gau ar ôl i niferoedd ddisgyn i 15 aelod.

Chwe mis ymlaen, mae’r aelodaeth wedi dyblu, gyda nifer o’r plant yn profi llwyddiant mewn cystadlaethau cenedlaethol.

Gôl y gampfa yw cynnig profiadau newydd i blant a darparu lle iddyn nhw fedru cymdeithasau gyda'i gilydd.

“Er bod y plant yn gwneud o ar ben eu hunain, maen nhw mewn grŵp hefo’u ffrindiau ac maen nhw’n gallu cael cystadlaethau bach yn erbyn ei gilydd,” eglurodd Claire.

Image
Diamond Weightlifting Club.
Ymysg aelodau y clwb, mae plant Claire, Iwan a Della.

'Hyder'

Yn ogystal â chanolbwyntio ar ffitrwydd corfforol, mae’r gampfa hefyd yn canolbwyntio ar hybu iechyd meddwl a hunan-gred.

“Mae’n rhoi hyder iddyn nhw," meddai Claire..

"Dw’i wedi gweld gwahaniaeth yn y plant dros y chwech i saith mis diwethaf. Mae o yn dysgu nhw i fod yn ddisgybledig, ac maen nhw’n gorfod gwrando a chredu ynddyn nhw eu hunain."

Mae’r gampfa hefyd yn cynnig cyfleoedd i blant ag anghenion i ymuno a chymdeithasu gyda phlant eraill.  

Mae Claire, sy’n gyn-weithiwr cymdeithasol, yn dweud nad oes digon o gyfleusterau a chyfleoedd tebyg ar gael i bobl ag anghenion yn yr ardal.

Mae hi’n credu bod angen mwy o gefnogaeth i allu darparu cyfleusterau fel hyn ar gyfer pobl ag anableddau.

“‘Da’n ni methu darparu ar gyfer oedolion hefo anableddau oherwydd dydy’r adeilad ddim yn addas. Dyna un o'r rhesymau faswn i’n hoffi cael adeilad mwy i ni gael cynnig tipyn bach mwy,” meddai. 

Mae sawl cyn-aelod o’r clwb bellach wedi dod yn hyfforddwyr ac yn rhedeg gwersi eu hunain.

“‘Da’n ni’n rhoi tipyn bach yn ôl i'r gymuned hefyd i gadw pobl ifanc yma yn Llandudno ac yn creu swyddi iddyn nhw,” meddai Claire

'Hoff bethau'

Mae Seamus, a ddechreuodd ddod i’r clwb yn 2019, bellach yn hyfforddwr sy’n rhedeg sawl dosbarth yr wythnos. 

“Dyma'r swydd orau yn y byd i fi a ‘dwi’n caru fo,” meddai. 

Ymunodd plant Claire, Iwan a Della, â’r clwb yn ystod y pandemic, pan oedd eu clybiau chwaraeon arferol wedi cau. 

Erbyn hyn, mae’r ddau yn serennu yn y gamp, gyda Della wedi’i dewis i ymuno â charfan Cymru, a'i gobeithion ar gynrychioli Cymru ar lwyfan y byd. 

“‘Cystadlu yw un o fy hoff bethau am godi pwysau. Y gobaith yw cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad,” eglurodd Della.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.