Lansio ymchwiliad ffurfiol i 'ffaeleddau data' Betsi Cadwaladr

Ysbyty Gwynedd, Bangor
Ysbyty Gwynedd, Bangor

Bydd ymchwiliad ffurfiol yn cael ei gynnal i ffaeleddau yn y ffordd mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn ymdrin â data. 

Daw penderfyniad Jeremy Miles i lansio ymchwiliad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn problemau yn y modd y cafodd eu rhestrau aros eu hadrodd yr wythnos diwethaf.

Roedd yr Ysgrifennydd Iechyd wedi rhybuddio ddydd Mercher ei fod yn anhapus gydag ymateb y bwrdd a bod ganddyn nhw 24 awr i ddatrys y broblem.

Ddydd Iau, dywedodd y byddai'n cynnal ymchwiliad ffurfiol ac yn atal rhagor o ddata ym maes gofal wedi'i gynllunio rhag cael ei gyhoeddi am y tro.

Dywedodd Mr Miles bod y problemau yma yn "tanseilio" hyder pobl yn y Gwasanaeth Iechyd.

"Mae’r pryderon hyn yn cynnwys anomaleddau o ran maint y rhestr aros yr adroddwyd arno ac anghysondebau o ran lefelau gweithgarwch gweithredol - mae hyn yn tanseilio hyder yn nibynadwyedd eu gwybodaeth," meddai.

"Dim ond ar y data sy’n ymwneud â gofal a gynlluniwyd y bydd yr ymchwiliad yn edrych. 

"Ni fydd yn cynnwys data sy’n ymwneud â chanser, profion diagnostig, therapïau na gofal brys a gofal mewn argyfwng, gan nad oes anghysondebau wedi’u canfod yn y rhain hyd yma."

Ychwanegodd: "Rwyf am fod yn gwbl glir mai adolygiad sy’n ymwneud ag ansawdd y data a’r trefniadau rheoli data yw hwn, yn hytrach nag ansawdd y gofal i gleifion neu ba mor hir y mae pobl yn aros am ofal yn y gogledd."

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nad oedd y ffaeleddau wedi "effeithio ar ddarparu gofal" a’u bod nhw’n gweithio i fynd i'r afael â'r mater.

Dywedodd prif weithredwr y bwrdd iechyd, Carol Shillabeer: "Rydym yn cydnabod difrifoldeb y broblem yr ydym yn ei hwynebu ar hyn o bryd gyda'n data amser aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ac rydym wedi bod yn gweithio'n gyflym i'w diweddaru a'i hailgyflwyno.

"Mae'n bwysig pwysleisio nad yw'r broblem hon wedi effeithio ar apwyntiadau cleifion.”

'Cwestiynau difrifol'

Daw'r datganiad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyfnod heriol i'r bwrdd iechyd yn y gogledd.

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd y llywodraeth ragor o gefnogaeth i'r bwrdd yn sgil amseroedd aros hir yn yr ardal.

Mae gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yr amseroedd aros hiraf drwy Gymru ar gyfer gofal wedi'i gynllunio.

Ar ddiwedd Gorffennaf roedd dros 5,000 o lwybrau yn dal i aros mwy na dwy flynedd am lawdriniaeth mewn 15 o feysydd. 

Ac ym mis Awst fe wnaeth bron i 4,000 o bobl aros am fwy na 12 awr mewn unedau gofal brys.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal cymdeithasol bod yr oedi yn dangos "methiant" Llywodraeth Cymru.

"Mae hyn yn ddamniol iawn ac yn adrodd cyfrolau am fethiant Llafur i ddod â threfn i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac mae angen archwiliad i fynd i wraidd y sefyllfa," meddai Mabon ap Gwynfor AS.

"Nid yn unig yw'r oedi ei hun yn codi cwestiynau difrifol am y bwrdd iechyd a'i allu i sicrhau data amserol a thryloyw, mae'r ffaith fod cwestiynau am gywirdeb y data hwnnw hefyd yn codi cwestiynau am arweinyddiaeth gwbl ddiffygiol Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi methu i ddatrys problem y bwrdd ers blynyddoedd maith. 

"Rhaid cwestiynu effaith hyn i gyd ar restrau aros Cymru gyfan."

Dywedodd Darren Millar AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, fod sefyllfa'r bwrdd iechyd bellach yn "hollol annerbyniol".

"Mae angen gweithredu brys ac ymchwiliad annibynnol i adfer hyder y cyhoedd a throi pethau o gwmpas," meddai. 

"Mae mesurau arbennig i fod i wella pethau, ond mae perfformiad yn waeth nawr nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl."

Ychwanegodd fod trigolion y gogledd "wedi cael eu siomi am gyfnod rhy hir" ac yn haeddu "gonestrwydd a thryloywder". 

"Mae un sgandal ar ôl y llall wedi bod. Nid oes gennym unrhyw hyder yng ngallu Llywodraeth Lafur Cymru i drwsio pethau," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.