‘Ofn cyson’: Oedi mewn triniaeth yn peryglu golwg miloedd o bobl
Mae mwy nag 80,000 o gleifion sydd yn y perygl mwyaf o golli eu golwg yn barhaol yn aros yn rhy hir am driniaeth achub golwg, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau y Senedd.
Offthalmoleg yw’r arbenigedd prysuraf i gleifion allanol yng Nghymru, sy’n cyfrif am un o bob wyth claf ar restr aros y GIG, ac mae disgwyl i’r galw gynyddu 40% dros yr 20 mlynedd nesaf.
Dim ond 1.97 o offthalmolegwyr ymgynghorol sydd i bob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru, sy’n llawer is na’r tri sy’n cael ei argymhell, meddai Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.
Maen nhw’n rhybuddio bod mwy o bobl mewn perygl o golli eu golwg yn ddiangen, heb weithredu ar frys a buddsoddiad mewn newidiadau.
Dywedodd Peter Fox AS, cadeirydd y pwyllgor, y byddai modd osgoi colli golwg drwy ei ganfod yn gynnar a’i drin yn amserol yn hanner yr achosion.
“Ond mae miloedd o bobl yn byw gyda’r ofn o golli eu golwg oherwydd nad ydyn nhw’n cael eu gweld ar amser,” meddai.
“Rydyn ni mor ddiolchgar i’r cleifion a rannodd eu straeon gyda ni – mae rhaid i’w profiadau sbarduno newid brys.”
‘Amser yn hanfodol’
Yn ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gleifion am effaith yr oedi – o golli swyddi ac annibyniaeth, gan gynnwys y gallu i yrru, darllen, neu adnabod wynebau, i argyfyngau iechyd meddwl sy’n mynd o ddrwg i waeth.
Disgrifiodd un claf, Edward Kenna, 80, sydd â dirywiad macwlaidd, y pryder cyson a achosir gan driniaethau oedi.
"Rwy'n ddiolchgar am y driniaeth rwy'n ei derbyn, ond rwyf hefyd yn teimlo'n flin iawn ac wedi cael fy siomi gan y GIG," meddai.
Ychwanegodd: “Yr ofn cyson sydd gennyf, yr wyf yn byw gydag ef bob dydd, yw mynd yn ddall.
“Maen nhw’n llythrennol yn gadael y tywyllwch, tywyllwch parhaol, yn fy llygaid i.
“Mae’n debyg y byddaf yn colli fy ngolwg oherwydd diffyg gweithredu [gan y GIG]. Rwy’n teimlo bod amser yn rhedeg allan ar gyfer fy ngolwg a’m gallu i gadw fy ngolwg.”
Galw
Nid oes gan Gymru system cofnodi ac atgyfeirio cleifion electronig sy’n gweithredu’n llawn, ac mae llawer o gyfleusterau gofal llygaid yn hen ac yn anniogel meddai’r adroddiad.
Clywodd y pwyllgor bod toeau sy’n gollwng ac offer sydd wedi torri yn achosi oedi mewn triniaeth hefyd.
Ymhlith tystiolaeth arall a glywodd y Pwyllgor roedd claf a gollodd ei swydd oherwydd na allai roi amserlen i'w chyflogwyr ar gyfer triniaeth, a tystiolaeth arall gan fam ifanc sydd, ar ôl cael gwybod y byddai’n mynd yn ddall, wedi gadael yr ysbyty heb unrhyw gefnogaeth ac wedi mynd i argyfwng.
Disgrifiodd cleifion achosion o deithio hyd at 150 milltir am driniaeth, yn aml heb gymorth trafnidiaeth.
Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar unwaith i weithredu’r Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg.
Cyhoeddwyd y strategaeth yn 2024, ac mae’n nodi sut y dylid trawsnewid gwasanaethau i fynd i’r afael ag aros hir a gwella’r profiad i gleifion.
Mae’n cynnwys diwygio i wneud y mwyaf o adnoddau’r gweithlu; rhwydweithiau clinigol i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at ofal; a model i ddarparu gwasanaethau ar draws ffiniau’r byrddau iechyd.
Ond araf fu’r cynnydd, ac mae’r Pwyllgor yn rhybuddio, heb weithredu brys, mae mwy o bobl mewn perygl o golli eu golwg yn ddiangen.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu adroddiad y pwyllgor ac yn bwriadu ymateb yn fuan.