Hong Kong: O leiaf 94 wedi marw wrth i danau gael eu diffodd
Mae o leiaf 94 o bobl wedi marw yn Hong Kong wrth i ddiffoddwyr tân lwyddo i ddiffodd tanau sydd wedi llosgi mewn nifer o flociau o fflatiau yn y ddinas.
Fe gadarnhaodd yr awdurdodau am 14.00 amser Hong Kong (6.00 yng Nghymru) eu bod nhw wedi llwyddo i ddiffodd y fflamau oedd wedi llosgi ers ddydd Mercher.
Mae o leiaf 76 o bobl wedi'u hanafu yn adeiladau Llys Wang Fuk, ac mae bron i 300 o bobl ar goll. Mae cannoedd wedi eu symud i lochesi dros dro.
Mae ymchwiliadau i achos y trychineb yn dal i fynd yn eu blaen.
Mae Llys Wang Fuk yn gartref i dros 4000 o bobl, ac mae yn ardal Tai Po o Hong Kong.
Roedd yr adeiladau wedi eu gorchuddio gyda sgaffaldiau bambŵ a gorchuddion plastig cyn y digwyddiad.
Mae tri o swyddogion cwmni adeiladu wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad.
Dywedodd un fenyw o'r enw Ms Cheung oedd wedi goroesi y tân a’n parhau i chwilio am ei pherthnasau ei bod mewn sioc.
"Ni allaf ddisgrifio fy nheimladau. Roedd plant yno," meddai wrth asiantaeth newyddion AFP.
"Os nad oes modd nabod wynebau pobl, fe fydd yna eitemau personol i bobl eu hadnabod."
