Newyddion S4C

Plaid Cymru ar frig arolwg barn ar gyfer Etholiad y Senedd

01/12/2024
Plaid Cymru

Am y tro cyntaf ers 2010, mae arolwg barn newydd am fwriad pobl wrth bleidleisio yn Etholiad y Senedd yn awgrymu fod Plaid Cymru ar y blaen. 

Mae Llafur Cymru a Reform UK yn gyfartal yn yr ail safle.   

Mae'r arolwg Barn Cymru diweddaraf gan YouGov ar gyfer ITV Cymru Wales a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn awgrymu bod Plaid Cymru ar y blaen o un pwynt gyda 24% o'r bleidlais, gyda Llafur Cymru a Reform UK yn ail gyda 23% o'r bleidlais. 

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi disgyn i'r pedwerydd safle gyda 19% o'r bleidlais, ac mae'n ymddangos fod nifer o'u pleidleiswyr yn ystyried pleidleisio dros Reform UK yn yr etholiad nesaf yn 2026. 

Fe gafodd 1,121 o etholwyr yng Nghymru sy'n hŷn na 16 oed eu holi rhwng 25 a 29 Tachwedd. 

'Digynsail' 

Yn ôl Dr Jac Larner o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae hwn yn arolwg barn digynsail: "Dyma'r arolwg barn YouGov cyntaf ers 2010 sydd wedi rhoi Plaid Cymru ar y blaen o ran sut y mae pobl yn bwriadu pleidleisio yn y Senedd," meddai. 

"Cyn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf, roeddem ni'n sylwi ar duedd cynyddol o newid rhwng Llafur a Phlaid Cymru, rhywbeth sy'n parhau yma: mae 24% o bleidleiswyr Llafur yn dweud y byddent yn pleidleisio dros Blaid Cymru mewn etholiad datganoledig."

Ychwanegodd Dr Larner fod yr arolwg barn yn awgrymu fod Reform UK yn gyfartal â safle uchaf erioed Plaid Brexit yn yr arolygon barn: "Er bod y prif ganlyniadau yn ddramatig, dim ond un arolwg barn ydy hwn wrth gwrs ac mae'n rhaid i ni gofio ein bod ni'n gofyn i bobl ystyried sut y byddent yn pleidleisio gan ddefnyddio system etholiadol na fydd llawer iawn yn gyfarwydd ag ef mewn etholaethau nad ydynt yn bodoli eto.

"Mae'n debygol y bydd y sefyllfa'n amrywio dipyn yn y 18 mis nesaf," meddai. 

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae’r arolwg barn hwn yn drobwynt hanesyddol i Gymru. Mae pobl yn cydnabod mai Plaid Cymru o dan arweinyddiaeth Rhun ap Iorwerth ydy'r dewis arall clir yn lle Llafur, gan gynnig yr unig raglen o newid cadarnhaol i wella bywydau.

"Os ydy'r ffigyrau hyn yn cael eu hailadrodd yn yr etholiad, Plaid Cymru fyddai'r blaid fwyaf yn y Senedd am y tro cyntaf erioed. Yn y cyfamser, mae cefnogaeth Llafur yn lleihau, gan ddatgelu eu methiant i gyflawni."

Arolwg barn bwriad pleidleisio pobl yn y Senedd:

Plaid Cymru - 24%  (+1)

Llafur  - 23% (-4) 

Reform UK - 23% (+5) 

Ceidwadwyr - 19% (+1).           

Democratiaid Rhyddfrydol - 5% (-1)

Gwyrddion - 6% (+1) 

Arall - 1% (-2)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.