Adroddiadau am ymosodiad ar ddyn cyn iddo gael ei roi mewn car
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi adroddiadau fod dau ddyn wedi ymosod ar ddyn arall cyn ei roi mewn cerbyd yng Nghwmbran, Sir Torfaen, nos Wener.
Yn ôl adroddiadau, cafodd y dyn ei roi mewn car lliw tywyll ger cyffordd Clôs Pant Gwyn.
Y gred yw fod yr ymosodiad honedig wedi digwydd toc cyn 23:00.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ian Bartholomew o Heddlu Gwent: "Parhau mae ein hymchwiliad i geisio dod o hyd i'r dioddefwr, a cheisio adnabod y ddau ddyn arall.
"Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn yr ardal i gysylltu â ni."
2400397020 yw'r rhif i'w nodi, gydag unrhyw wybodaeth berthnasol.