Newyddion S4C

Angladd lliwgar i ddathlu bywyd y ddigrifwraig Janey Godley

janey.png

Mae angladd y ddigrifwraig Albanaidd Janey Godley wedi ei gynnal yn Glasgow.  

Roedd hi'n 63 oed, ac wedi dioddef o ganser yr ofari. 

Daeth Ms Godley yn enwog ar ôl iddi ddynwared cyn-Brif Weinidog Yr Alban Nicola Sturgeon mewn cynadleddau newyddion yn ystod y pandemig. 

Daeth y ddwy yn ffrindiau yn ddiweddarach, ac roedd Ms Sturgeon yn bresennol yn ei hangladd ddydd Sadwrn. 

Fe wnaeth rhai cannoedd ymgynnull wrth i hers y ddigrifwraig deithio drwy ddinas Caeredin ddydd Gwener, ac yna Glasgow, cyn y gwasanaeth angladdol fore Sadwrn.

Roedd y rhai a oedd yn bresennol wedi cael cais i wisgo dillad lliwgar.  

Dywedodd ei merch, Ashley Storrie: "Mae fy mam mor ddiolchgar i chi gyd a ddaeth ddoe i Gaeredin a chodi eich lleisiau i ganu, a'r bobl a ddaeth heddiw i'w chofio hi yn y ffordd orau bosib.

"Roedd fy mam yn ferch Glasgow, roedd hi'n caru ei dinas yn fawr, dyma oedd ei lle gorau hi yn y byd."

Mae'r angladd yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod â gwasanaeth coffa yng Nghaeredin i'r cyn-Brif Weinidog a chyn arweinydd yr SNP Alex Salmond, a fu farw fis Hydref. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.