Gêm gyfartal i Gymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon
Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Euro 2025 yn y fantol ar ôl iddyn nhw chwarae gêm gyfartal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd Cymru yn chwarae'r ail gymal yn erbyn y Gwyddelod yn Nulyn ddydd Mawrth, 3 Rhagfyr, gan obeithio ennill dros y ddau gymal er mwyn cyrraedd eu twrnamaint mawr cyntaf erioed.
Roedd dros 15,500 o gefnogwyr wedi prynu tocynnau i'r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, y nifer mwyaf o gefnogwyr erioed i dîm y merched.
Sgoriodd Cymru ar ôl 21 munud pan dorrodd Jess Fishlock i lawr asgell dde'r cae cyn bwrw’r bêl o flaen y gôl i Lily Woodham, a foliodd i gefn y rhwyd.
Ond chwarter awr yn ddiweddarach, tarodd Gweriniaeth Iwerddon yn ôl wrth i gôl-geidwad Cymru, Olivia Clark fwrw’r bel i’w gôl ei hun.
Roedd yn ymddangos ei bod hi wedi arbed ergyd o bell gan Ruesha Littlejohn, ond bownsiodd y bel yn ôl oddi ar y trawst ac oddi ar ei chefn i gefn ei rhwyd.
Tensiwn
Gyda’r sgôr yn 1-1 ar ôl yr hanner cyntaf, roedd y dorf ar bigau'r drain drwy'r ail hanner.
Ymgeisiodd Ffion Morgan am y gôl yn fuan ar ôl y chwiban i ddechrau'r hanner ond ni lwyddodd i daro’r bêl i’r rhwyd.
Daeth ymgais addawol arall gan Gymru ar ôl 62 munud gyda Carrie Jones bron a chreu cyfle i sgorio.
Roedd cic o’r gornel wedi creu cyfle arall i Gymru yn fuan wedyn ond fe gafodd peniad Rhiannon Roberts ei atal gan Ruesha Littlejohn.
Roedd cerdyn melyn yr un i Weriniaeth Iwerddon a Chymru wedi 69 munud. Cafodd Ruesha Littlejohn ei chosbi wedi iddi fwrw Rachel Rowe gyda’i phenelin, ac fe gafodd Jess Fishlock ei chosbi am rywbeth ddywedodd hi.
Gwnaeth Olivia Clark ymdrech arbennig yn ddiweddarach, gan atal pêl cefnwr canol Gweriniaeth Iwerddon, Caitlin Hayes, rhag cyrraedd cefn y rhwyd.
Ond gorffennodd y gêm yn ddi-sgor ar ddiwedd ail hanner nerfus, gyda'r ddau dîm yn anfodlon mentro cyn yr ail gymal yn Nulyn ddydd Mawrth.