Newyddion S4C

Sut wnaeth eich Aelod Seneddol chi bleidleisio ar alluogi cymorth i farw?

29/11/2024
Hawl i farw

Mae ASau San Steffan wedi pleidleisio o 330 i 275, mwyafrif o 55, o blaid galluogi cymorth i farw.

Dyma'r cam cyntaf allai arwain at gyfraith newydd yn y pen draw os bydd yn cael ei chymeradwyo'n llawn.

Yng Nghymru, pleidleisiodd 23 AS o blaid, chwech yn erbyn ac ni wnaeth tri arall bleidleisio.

Dyma sut wnaeth pob AS yng Nghymru bleidleisio:

 

O blaid:

Aberafan Maesteg – Stephen Kinnock (Llafur)

Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe – David Chadwick (Dems Rhydd)

Alun a Glannau Dyfrdwy – Mark Tami (Llafur)

Bangor Aberconwy - Claire Hughes (Llafur)

Bro Morgannwg - Kanishka Narayan (Llafur)

Canol a De Sir Benfro - Henry Tufnell (Llafur)

Ceredigion Preseli – Ben Lake (Plaid Cymru)

Dwyfor Meirionnydd - Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Dwyrain Caerdydd – Jo Stevens (Llafur)

Dwyrain Casnewydd – Jessica Morden (Llafur)

Dwyrain Clwyd – Becky Gittings (Llafur)

Gogledd Caerdydd – Anna McMorrin (Llafur)

Gogledd Clwyd – Gill German (Llafur)

Gorllewin Abertawe – Torsten Bell (Llafur)

Gorllewin Caerdydd - Alex Barros-Curtis (Llafur)

Gŵyr - Tonia Antoniazzi (Llafur)

Merthyr Tudful ac Aberdar – Gerald Jones (Llafur)

Pen-y-bont ar Ogwr – Chris Elmore (Llafur)

Pontypridd - Alex Davies-Jones (Llafur)

Sir Drefaldwyn a Glyndŵr – Steve Witherden (Llafur)

Sir Fynwy – Cathrine Fookes (Llafur)

Wrecsam - Andrew Ranger (Llafur)

Ynys Môn – Llinos Medi (Plaid Cymru)

 

Yn erbyn:

Caerfyrddin – Ann Davies (yn erbyn)

Caerffili – Chris Evans (Llafur)

De Caerdydd a Phenarth – Stephen Doughty (Llafur)

Gorllewin Casnewydd ac Islwyn – Ruth Jones (Llafur)

Llanelli – Nia Griffiths (Llafur)

Torfaen - Nick Thomas-Symonds (Llafur)

 

Heb bleidleisio:

Blaenau Gwent a Rhymni - Nick Smith (Llafur) 

Castell-nedd a Dwyrain Abertawe – Carolyn Harris (Llafur)

Rhondda ac Ogwr – Chris Bryant (Llafur)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.