Newyddion S4C

Cŵn yn ymweld ag ystad y Brenin a’r Frenhines yn y gobaith o ddod o hyd i gartref

30/11/2024
Llun: Jonathan Brady/PA Wire

Mae rhai o gŵn elusen adnabyddus Battersea Dogs and Cats Home wedi ymweld ag ystad y Brenin a’r Frenhines fel rhan o ymdrech i ddod o hyd i gartrefi iddyn nhw.

Ymwelodd Percy, Darcie, Elspeth, Harper, Missy a Shadow ag ystad y Brenin Charles a'r Frenhines Camilla yn Highgrove yn Sir Gaerloyw er mwyn cael eu lluniau wedi eu tynnu. 

Mae’r cŵn i gyd yn chwilio am gartrefi cyn y Nadolig ac mae eu gofalwyr yn gobeithio y byddai’r lluniau Nadoligaidd eu naws yn helpu yn eu hymgyrch. 

Cafodd y cŵn eu lluniau wedi eu tynnu wrth iddyn nhw eistedd ar ddodrefn arbennig a gafodd eu creu gan fyfyrwyr drwy ddefnyddio hen leni o Balas Buckingham a Chastell Windsor. 

Pwy sy'n chwilio am gartref?

Image
Percy

Yn bedair oed, mae Percy yn groesfrid Bichon lliw gwyn. 

Image
Darcie

Mae Darcie yn gi bach Labrador “chwareus” sydd ond yn dri mis oed. 

Image
Elspeth

Mae Elspeth yn Cocker Spaniel brown “llawn egni,” a hithau’n flwydd oed. 

Image
Harper

Mae Harper yn Jack Russell “galluog” sydd yn dair oed. 

Image
Missy

Mae Missy yn Cocker Spaniel lliw du, a hithau’n dair oed.

Image
Shadow

Ac mae Shadow yn Deerhound Lurcher pedair oed. Mae Shadow yn “swil” ei natur gyda thair coes. 

Ffrind i Bluebell?

Mae’r Brenin a’r Frenhines wedi awgrymu eu bod yn ystyried gofalu am gi arall yn ddiweddar. 

Bu farw ci'r Frenhines, Beth, yn gynharach yn y mis. Roedd y cŵn Beth a Bluebell wedi cael eu mabwysiadu ganddi ar ôl iddyn nhw fod o dan ofal Battersea Dogs and Cats Home. 

Dywedodd ffynhonnell sydd yn agos i’r Teulu Brenhinol ei bod “ychydig yn rhy fuan” i’r Frenhines ddechrau chwilio am “ffrind i Bluebell” ar hyn o bryd ond ei bod yn gefnogol iawn o’r elusen.

Lluniau: Jonathan Brady/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.