Newyddion S4C

Siôn Corn Cymraeg: Mam o Aberystwyth yn croesawu 'newid enfawr'

Polar Express

Ar ôl iddi nodi ei siom rai dyddiau yn ôl, ar ôl cael gwybod na fyddai Sion Corn yn siarad Cymraeg, mae mam o Aberystwyth yn dweud ei bod yn falch bod sioe yn y dref wedi cyhoeddi y bydd darpariaeth Gymraeg ar gael.   

Roedd Alaw Griffiths yn ystyried peidio mynd i sioe Polar Express gyda’i merch, sy’n 12 oed, a mab, sydd yn wyth oed.  

Mae'n dweud iddi gael gwybod rai dyddiau yn ôl na fyddai Siôn Corn yn siarad Cymraeg. A dywedodd ei bod yn ofni y byddai hynny yn "sbwylio hud a lledrith" y profiad i'r plant a'i fod yn "anodd esbonio" iddyn nhw nad oedd bellach yn medru'r iaith.

Mae Polar Express yn sioe fyw sydd yn “brofiad theatr gwbwl ymdrochol” yn seiliedig ar y ffilm boblogaidd, sy’n cynnwys canu a dawnsio ac “ymweliad arbennig gan Siôn Corn ei hun”.

Cyn archebu tocynnau, sy'n costio rhwng £37.95 a £44.95, cysylltodd Ms Griffiths â chwmni Polar Productions, sydd yn gyfrifol am y sioe, i holi a fyddai  Siôn Corn yn siarad Cymraeg.

Fe gafodd wybod “mewn un brawddeg bach rili byr” meddai, na fyddai Siôn Corn yn gwneud hynny. 

Mae'n dweud i'r cwmni egluro yn ddiweddarach na fyddai Siôn Corn yn cael sgyrsiau unigol gyda’r plant “a bod o jyst yn rhan o’r sioe".

Mae'n dweud iddyn nhw hefyd nodi ei fod yn gallu “dweud ymadrodd neu ddau yn y Gymraeg,” ond bod gofyn arno i siarad Saesneg oherwydd "trwydded y sioe gyda chwmni Warner Bros".

'Parch'

Ar ôl gofyn am eu hymateb, mae cwmni Polar Express wedi dweud wrth Newyddion S4C fore Sadwrn y bydd modd i bobl ofyn am Siôn Corn Cymraeg o flaen llaw. 

Dywedodd llefarydd: "Rydym ni'n edrych ymlaen at ddod â'r profiad hudolus yma i Aberystwyth, y cyntaf yng Nghymru, ac rydym ni wedi cyflogi cyn gymaint o berfformwyr â sy'n bosib o'r ardal leol. 

"Gyda pharch i'r iaith Gymraeg, mae nifer o linellau ein hactorion yn cael eu dweud yn y Gymraeg a'r Saesneg hefyd. 

"Mae nifer o'n cast yn siaradwyr Cymraeg, ac os oes yna unrhyw un sydd eisiau y profiad o gael Sion Corn yn siarad Cymraeg, gofynnwn iddynt gysylltu â ni yn uniongyrchol ac fe wnawn ni eu helpu i archebu lle ar drên lle bydd hynny'n bosibl." 

Image
Llun: Polar Express Aberystwyth/Facebook
Llun: Polar Express Aberystwyth/Facebook

'Brwydr ddyddiol' 

Yn ôl Alaw Griffiths, mae hynny yn "newid enfawr" o gymharu â'r wybodaeth a dderbyniodd gan y cwmni yn ystod y dyddiau diwethaf. Ac mae hi'n croesawu'r newyddion y bydd darpariaeth Gymraeg ar gael. 

"Maen nhw wedi gwrando, ac wedi ymateb yn gadarnhaol a g'neud newidiadau," meddai.

"Mae nifer wedi bod yn holi, nid jest fi. Ac mae'n rhwystredig bod angen codi ffys. 'Dw i'n laru ar ofyn a gofyn yn hytrach na phethau jest yn digwydd yn naturiol," ychwanegodd.     

“Dydyn nhw ddim yn trïo bod yn gas neu’n styfnig, ond jest anwybodaeth ydi o. Mae jest angen helpu pobol i ddeall pam bod o’n gymaint o frwydr dyddiol i ni fel Cymry Cymraeg, a mae hwn jest yn rhywbeth arall.

“Mae o’n exhausting dydi!” 

'Addysgu' 

Roedd Ms Griffiths yn awyddus i ganmol y cwmni am eu gwefan ddwyieithog “sydd yn ffantastig,” meddai. 

Mae hi'n dweud ei bod hi bellach yn bwriadu yn mynd â'i theulu i’r sioe.

“Mae’n debyg mai dyma’r tro cyntaf erioed i’r sioe Polar Express ddod i Gymru," meddai. "So just faux pas ar eu rhan nhw ydi o, mae jyst angen iddyn nhw sylweddoli pa mor bwysig ydi o rili.

“Dwi ddim isho bod yn nawddoglyd, a mae’r sgwrs yn barchus iawn, dwi just yn trïo rhoi nhw ar ddeall pam fod o’n bwysig a pam dwi’n gofyn y cwestiwn.

“Does neb yn flin, mae just isho addysgu pobol. Dyna ydi’r brif neges.”

Wrth ymateb i'r ffaith y bydd angen i gwsmeriaid gysylltu â'r cwmni os am gyfarfod a Siôn Corn Cymraeg, dywedodd Alaw Griffiths nad yw hynny'n "grêt."

"Ond i feddwl lle oeddan ni ddau ddiwrnod yn ôl, mae'n newid enfawr, ac mae'n gam ymhellach at sicrhau y flwyddyn nesaf y bydd y sioe yn gwbwl ddwyieithog, a bod hynny'n digwydd yn naturiol,"meddai. 

Llun gan Tim Mossholder ar Unsplash

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.