Aelodau Seneddol yn pleidleisio o blaid galluogi cymorth i farw
Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid galluogi cymorth i farw - y cam cyntaf fyddai'n arwain at gyfraith newydd yn y pen draw os bydd yn cael ei chymeradwyo'n llawn.
Pleidleisiodd ASau o 330 i 275, mwyafrif o 55, i’w gymeradwyo ar yr ail ddarlleniad.
Roedd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi pleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth, yn ôl data Tŷ'r Cyffredin.
Bydd angen i'r mesur fynd drwy bwyllgor lle gall ASau gyflwyno gwelliannau a holi barn arbenigwyr, ac yna drwy Dŷ’r Arglwyddi, cyn cael ei gwneud yn ddeddf.
Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw newid yn y gyfraith yn digwydd tan y flwyddyn nesaf ar y cynharaf.
Pe bai'r cynnig yn dod yn gyfraith, byddai oedolion sydd yn dioddef o salwch terfynol, lle mae disgwyl iddyn nhw farw o fewn chwe mis, yn gymwys i gael cymorth i farw.
Byddai'n rhaid i’r person fod yn ei iawn bwyll i wneud y penderfyniad i ddod â'u bywyd i ben.
Mae annog neu gynorthwyo hunanladdiad yn erbyn y gyfraith ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr, gydag uchafswm dedfryd o 14 mlynedd o garchar.
Ymhlith y rhai a bleidleisiodd o blaid y mesur oedd AS Sir Fynwy, Catherine Fookes, a ddywedodd fod dyddiau olaf ei thad wedi bod yn boenus.
Dywedodd fod gan ei thad sepsis, clefyd y galon, a bod ei arennau wedi methu ar ôl iddo gael diagnosis terfynol.
Ychwanegodd: “Roedd ei weld yn dioddef wedi fy argyhoeddi bod rhaid inni newid y gyfraith fel bod gan bobl sy’n derfynol wael ddewis.”
'Parchu'
Roedd Ann Davies, AS Caerfyrddin, ymhlith y rhai a wrthwynebodd y newid.
Mewn llythyr at etholwyr cyn y bleidlais, dywedodd y gallai "greu sefyllfa lle mae unigolion bregus, sydd erioed wedi ystyried cymorth i farw fel opsiwn, yn cael eu cyflwyno iddo o dan amgylchiadau lle gallent deimlo dan bwysau i ddilyn y llwybr".
Dywedodd ei bod hefyd yn "pryderu am y pwysau y gall penderfyniadau o'r fath ei roi ar weithwyr meddygol proffesiynol sydd eisoes yn gweithio dan bwysau gwaith aruthrol".
Wrth gloi'r ddadl, dywedodd y gweinidog cyfiawnder Alex Davies-Jones, AS Pontypridd, fod y Llywodraeth yn credu y byddai unrhyw newid yn y gyfraith ar alluogi cymorth i farw yn “fater o gydwybod” i ASau.
Dywedodd wrth Dŷ’r Cyffredin: “Os mai ewyllys y Senedd yw y dylai’r gyfraith yn y maes hwn newid, bydd y Llywodraeth wrth gwrs yn parchu hynny ac yn sicrhau bod unrhyw Fesur yn effeithiol ac y gellir gorfodi ei ddarpariaethau.”