Newyddion S4C

Cwmni jîns o Geredigion yn cau eu gwefan mewn protest dros Ddydd Gwener Du

Hiut

Mae cwmni cynhyrchu jîns o Geredigion wedi cau eu gwefan am 24 awr, a hynny ar sail egwyddor mewn protest yn erbyn Dydd Gwener Du.

Mae Dydd Gwener Du'n ddiwrnod blynyddol lle mae llawer iawn o gwmnïau'n gostwng prisiau eu nwyddau am gyfnod byr cyn y Nadolig.

Ond gwrthwynebu hyn y mae cwmni cynhyrchu jîns Hiut o Aberteifi, gan ddadlau bod y diwrnod yn un sy'n niweidiol i'r amgylchedd.

Mewn neges ar eu gwefan ddydd Gwener, dywedodd y cwmni: "Ar gyfer Dydd Gwener Du rydym wedi cau ein gwefan am 24 awr.

"Fel gwneuthurwr bach, rydyn ni'n dod i mewn bob dydd i wneud y jîns gorau y gallwn ni, nid y mwyaf o jîns y gallwn ni.

"Rydyn ni'n codi pris teg amdanyn nhw, digon rydyn ni'n gobeithio i'n cadw ni i fynd fel busnes. Ond i ni, mae Dydd Gwener Du yn teimlo fel brwydr i weld pwy all fod y rhataf.

"Mae llawer o bobl yn prynu pethau nad oes eu hangen arnyn nhw mewn gwirionedd gydag arian nad oes ganddyn nhw... y cyfan o adnoddau o blaned na all ddal i fyny mewn gwirionedd.

"A’r canlyniad, diwylliant taflu i ffwrdd pan fo’r blaned angen inni wneud i bethau bara."

'Synnwyr cyffredin'

Ychwanegodd y datganiad bod eleni ar y trywydd i fod y flwyddyn boethaf ers i gofnodion ddechrau, ac "nid oes angen diwrnod wedi'i neilltuo ar gyfer ein gor-ddefnydd o'n planed".

"Byddwn yn ailagor yfory, pan fydd synnwyr cyffredin yn dychwelyd," medden nhw.

Mae'r cwmni'n cynhyrchu jîns ar gyfer y farchnad ryngwladol, ac maen nhw wedi bod yn gweithredu o hen ffatri yn y dref ers 2011.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.