Newyddion S4C

Tri sefydliad yng Nghymru i dderbyn coed ifanc o goeden y Sycamore Gap

29/11/2024
sycamore gap.jpg

Mae tri o sefydliadau yng Nghymru ymhlith 49 yn y DU a fydd yn derbyn coed ifanc o goeden a gafodd ei thorri i lawr yn Northumberland y llynedd.

Mae Canolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion ym Mro Morgannwg, Tîm Tirlunio ac Eco-Adeiladu Coleg Gŵyr yn Abertawe ac Ysgol Gynradd Rhiwbeina yng Nghaerdydd ymhlith y rhai sydd yn fuddugol fel ran o gynllun 'Coed Gobaith'.   

Cafodd y Sycamorwydden wreiddiol ger Mur Hadrian yn Northumberland ei thorri ym mis Medi gan yr hyn y mae'r heddlu'n ei gredu oedd yn weithred o fandaliaeth.

Fe gafodd 500 o geisiadau eu gwneud a bydd y 49 o goed sy'n droedfedd o uchder yn cael eu dosbarthu i gyrff a sefydliadau ar hyd y DU.

Maent yn derbyn gofal ar hyn o bryd gan Ganolfan Cadwraeth Planhigion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. 

Roedd Rheolwr Cyffredinol yr elusen Andrew Poad yn un o'r rhai a oedd yn beirniadu'r ceisiadau am y coed ifanc. 

Dywedodd ei fod yn "fraint" i ddarllen y ceisiadau. 

"Roedden nhw'n trafod colled, gobaith ac adfywiad, ac roedd pob un yn trafod straeon teimladwy o gysylltiad pobl i'r goeden a phwysigrwydd natur," meddai.

Mae disgwyl iddynt fod yn barod i gael eu plannu y tu allan erbyn y gaeaf nesaf.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.