Newyddion S4C

Y grŵp hip hop Kneecap yn ennill achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU

Kneecap

Mae'r grŵp hip hop Gwyddeleg Kneecap wedi ennill achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU ar ôl i'r cyn ysgrifennydd busnes Kemi Badenoch wrthod gwobr o £14,250 iddynt.

Fe wnaeth y band ddwyn achos yn erbyn y llywodraeth gan honni bod y penderfyniad i wrthod grant yn gwahaniaethu yn eu herbyn ar sail cenedligrwydd a barn wleidyddol.

Yn ystod gwrandawiad byr yn Uchel Lys Belfast ddydd Gwener, dywedodd Mr Ustus Scoffield ei fod yn falch bod y ddwy ochr yn yr achos wedi dod i gytundeb.

Yn rapio mewn Gwyddeleg a Saesneg, mae peth o ddeunydd y triawd o Belfast yn sôn am y Trafferthion, y cyfnod o wrthdaro treisgar rhwng 1968 a 1998 yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd y grŵp wedi gwneud cais am grant oedd yn cefnogi artistiaid o'r DU mewn marchnadoedd rhyngwladol.

Mae’r cynllun grant yn cael ei oruchwylio gan yr Adran Busnes a Masnach, a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan.

Penderfynodd Ms Badenoch, sydd bellach yn arweinydd y Blaid Geidwadol, wrthod cais Kneecap ym mis Chwefror.

Ar y pryd dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth ei fod yn cefnogi rhyddid i hawl i farn, ond ei bod hi’n “fawr o syndod” nad oeddynt am ddosbarthu arian trethdalwyr y DU i’r rhai oedd yn gwrthwynebu’r Deyrnas Unedig.

'Ymosodiad ar Kneecap'

Fe gafodd Kneecap ei sefydlu yn Belfast yn 2017 gan Mo Chara, (Liam Óg Ó hAnnaidh), Móglaí Bap (Naoise Ó Cairealláin) a DJ Próvaí (JJ Ó Dochartaigh).

Mae’r triawd wedi dod i’r amlwg eleni gydag albwm newydd, taith o amgylch y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau a ffilm rhannol hunangofiannol.

Dywedodd y triawd eu bod o blaid Iwerddon unedig, a bod eu poster ar gyfer eu taith 'Farewell to the Union' yn 2019, wedi gwylltio’r Blaid Geidwadol.

Yn dilyn y cytundeb cyfreithiol ddydd Gwener, dywedodd y band y byddai’n rhoi’r grant i ddau fudiad ieuenctid yn Belfast – un mewn ardal o genedlaetholwyr ac un mewn ardal unoliaethol.

“I ni, nid oedd hwn erioed am £14,250; fe allai wedi bod yn 50 ceiniog," meddai'r band mewn datganiad.

“Y cymhelliant oedd cydraddoldeb. Roedd hwn yn ymosodiad ar ddiwylliant artistig, yn ymosodiad ar Gytundeb Dydd Gwener y Groglith ei hun ac yn ymosodiad ar Kneecap a’n ffordd o fynegi ein hunain.

Image
Móglaí Bap and Mo Chara of Kneec performs at Tramshed
Móglaí Bap a Mo Chara o'r grŵp Kneecap yn perfformio yn Tramshed yng Nghaerdydd. (Llun: Mike Lewis Photography/Redferns)

“Fe weithredodd y cyn ysgrifennydd gwladol Kemi Badenoch a’i hadran yn anghyfreithlon; mae hyn bellach yn ffaith.

“Dydyn nhw ddim yn hoffi ein bod ni’n gwrthwynebu rheolaeth Brydeinig, nad ydyn ni’n credu bod Lloegr yn gwasanaethu unrhyw un yn Iwerddon ac mae’r dosbarthiadau gweithiol ar ddwy ochr y gymuned yn haeddu gwell."

Ychwanegodd y band: "Maen nhw'n haeddu cyllid, haeddu gwasanaethau iechyd meddwl priodol, haeddu dathlu cerddoriaeth a chelf ac yn haeddu’r rhyddid i fynegi ein diwylliant.

“Fe wnaethon nhw dorri eu deddfau eu hunain wrth geisio tawelu Kneecap.”

Mewn datganiad dywedodd Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y DU: “Blaenoriaeth y Llywodraeth hon yw ceisio lleihau costau a helpu i amddiffyn y trethdalwr rhag rhagor o gostau.

"Felly ni fyddwn yn parhau i herio her Kneecap gan nad ydym yn credu hynny er budd y cyhoedd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.