Cadeirlan Notre-Dame ym Mharis yn ail-agor bum mlynedd ar ôl tân enfawr
Bydd yr Arlywydd Macron yn ymweld â Chadeirlan Notre-Dame ym Mharis ddydd Gwener ar ôl iddi gael ei hadnewyddu bum mlynedd wedi'r tân mawr yno.
Wrth i'r gadeirlan gael ei hail-agor, bydd Mr Macron yn cwblhau taith o gwmpas yr adeilad a fydd yn cael ei darlledu yn fyw ar y teledu.
Dyma fydd y seremoni gyntaf i gael ei chynnal yn y Gadeirlan ers y tân ym mis Ebrill 2019.
Bydd mynediad swyddogol i'r Gadeirlan ar 7 Rhagfyr, gyda'r gwasanaeth Catholig cyntaf yn cael ei gynnal ar y diwrnod canlynol.
Ar ôl mynd o gwmpas yr adeilad a gweld yr atgyweiriad gwerth dros £500m, fe fydd yr Arlywydd Macron yn gwneud araith i ddiolch i'r 1,300 o weithwyr sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith.
Ar noson 15 Ebrill 2019, fe wnaeth pobl o gwmpas y byd wylio mewn syndod wedi i luniau byw gael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol o fflamau ar hyd to'r adeilad.
Fe wnaeth 600 o ddiffoddwyr tân frwydro'r fflamau am 15 awr.
Ar ôl archwilio'r Gadeirlan ar y diwrnod canlynol, fe wnaeth yr Arlywydd Macron addewid y byddai'n ail-agor i'r cyhoedd o fewn pum mlynedd.