Newyddion S4C

Cerddoriaeth: Rhybudd fod cyflwr addysg gerddorol yng Nghymru 'mewn argyfwng dybryd'

28/11/2024

Cerddoriaeth: Rhybudd fod cyflwr addysg gerddorol yng Nghymru 'mewn argyfwng dybryd'

Efallai ein bod ni'n Wlad y Gân ond i Pat Jones o Sir Gâr diwedd y gan yw'r geiniog.

"Mae'n straen aruthrol yn feddyliol, emosiynol ac ariannol. Dw i'n gwario £100 yr wythnos ar disel i fynd nôl a 'mlaen i'r ysgol.

"Ni'n dilyn y bws ysgol mewn bob bore ac yn dilyn e nôl."

Mae'r daith o Lanybydder i Ysgol Bro Myrddin iddi hi a'i merch yn bron i awr a hanner o drip ddwy ffordd.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi gwrthod ei chais ynghyd ag apel i'w merch gallu cael trafnidiaeth i'r ysgol agosaf sy'n cynnig Cerddoriaeth Safon Uwch drwy'r Gymraeg.

"Mae'r argyfwng costau byw yn anodd i bawb a hwn yn gwasgu ni fwy.

"Dw i hefyd yn rhiant sengl ac mae popeth yn cwympo arna i. Maen nhw'n glynu at y polisiau'n rhy lythrennol.

"Maen nhw'n cadw gweud dim dyna'r ysgol agosaf ond mae'n moyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg."

Dyw'r achos yma ddim yn unigryw i'r gorllewin yn unig.

Ledled Cymru, mae rhwystrau fel trafnidiaeth wedi cyfrannu at y cwymp sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n gallu astudio cerddoriaeth TGAU a Lefel A.

"Mae i fyny i'r cyngor i hwyluso'r mynediad i addysg Gymraeg dim creu anawsterau.

"Yn Sir Gaerfyrddin, fel nifer o lefydd, maen nhw'n creu anawsterau. Mae'n gŵyn sy'n codi'n aml.

"O ran bob un sy'n cysylltu, mae 10 neu 12 sydd ddim yn cysylltu ac yn rhoi mewn i'r drefn fel ag y mae yn hytrach na chwyno."

Mae Cyngor Sir Gar yn darparu cludiant am ddim i ddysgwyr sy'n hŷn na'r oedran ysgol gorfodol ond o dan 19 oed ond bod nhw'n mynychu'r ysgol ddynodedig agosaf neu'n byw yn nalgylch yr ysgol ac ymhellach na dair milltir i ffwrdd.

Nid y cyfrwng iaith sy'n achosi pryder yn unig. Ers 2014 hyd at y llynedd hanneru y mae nifer sy'n astudio Cerddoriaeth Safon Uwch a'r nifer sy'n astudio TGAU wedi cwympo 20%.

Ni ar ddeall i nifer o ysgolion yng Nghymru rhoi'r gorau i gynnig Cerddoriaeth Lefel A oherwydd prinder niferoedd ac athrawon.

"Mae cyflwr addysg gerddorol Cymru mewn argyfwng.

"Y tuedd yw bod Llywodraeth Cymru yn dibrisio gwerth cerddoriaeth yn ogystal â llywodraethau lleol sydd ddim yn dosrannu arian yn iawn.

"Maent yn rhoi cyfraniad bach i gerddoriaeth fel testun. Oherwydd hyn, mae plant yn gorfod teithio'n bell.

"Mae angen newid cywair yn llwyr. "Mae angen i Lywodraeth Cymru sefydlu canolfannau cerdd ymhob un sir yng Nghymru."

"We have a good record on music education.

"Schools make the choices about their own curriculum. There are challenges in particular subjects.

"The National Music Service will help with making music a reality."

"Dyw hi ddim yn siwr iawn ai meddygaeth neu cerddoriaeth.

"Tasa hi ddim yn neud Lefel A Cerddoriaeth bydde hi ffaelu dilyn gyrfa yn y brifysgol."

Tôn gyfarwydd sydd angen ei newid yn ôl rhai os ydyn ni o ddifri am fod yn Wlad y Gân go iawn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.