Ffarmwr yn galw am fwy o gymorth i ymdopi â sgil effeithiau dementia yn y teulu
Ffarmwr yn galw am fwy o gymorth i ymdopi â sgil effeithiau dementia yn y teulu
Mae ffermwr o Gwm Ogwr yn dweud bod y sgil effeithiau o fyw gydag aelod o'r teulu sydd â dementia wedi achosi dirywiad yn ei iechyd meddwl ei hun.
Mae Gareth Morgan yn gobeithio bydd llai o ffermwyr yn gorfod byw gydag effeithiau'r cyflwr yn y dyfodol.
Roedd mam Gareth, Gwyneth Morgan, yn berchen ac yn rhedeg ffarm y teulu, ond mi oedd hi’n byw gyda dementia am gyfnod sylweddol o’i hamser ar y ffarm.
Bu farw yn 2022.
Doedd Ms Morgan ddim wedi trefnu ewyllys cyn iddi ddatblygu dementia, gan adael dyfodol y ffarm mewn lle ansicr dros y ddwy flynedd diwethaf.
Gadawodd Gareth ei yrfa i weithio ac edrych ar ôl y ffarm yn llawn amser, gyda'i ferch Megan.
Ond mae'n dweud nad ydy'n gallu fforddio talu cyflog i’w ferch ar hyn o bryd.
Mewn cyfweliad gydag ITV Cymru, dywedodd Gareth, “Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio ar y fferm, chi yna bron 24/7.
"Ydw, dwi’n mwynhau’r ffarmio, ond dwi dal angen cymryd rhyw fath o seibiant.
“Ddwy flynedd yn ôl, roeddwn i’n suicidal yn ystod y tymor ŵyna - dydy e ddim yn lle neis i fod.”
Dywedodd Mr Morgan ei fod yn teimlo'n gaeth i'r fferm, oherwydd yr angen i weithio er mwyn ariannu gofal ei fam.
Roedd hefyd angen gwerthu rhan o dir y fferm er mwyn talu am y gofal.
“Dwi’n credu os oedd yna le pendant i dderbyn cefnogaeth - oeddwn i’n teimlo nad oedd cefnogaeth ar gael i ni oherwydd ein sefyllfa benodol ar y ffarm," meddai Mr Morgan.
Ychwanegodd ei ferch, Megan: "Roedd rhaid i ni werthu llawer o beth adeiladodd fy Mam-gu a Thad-cu ar gyfer codi arian am ei gofal hi.."
Unigrwydd
Dywedodd Linda Jones, Rheolwr Cymru o Rwydwaith y Gymuned Ffermio, yn dweud bod dementia yn gallu achosi unigrwydd ymysg ffermwyr.
“Mae dementia yn gallu cael tipyn o effaith ar ffermwyr; ar eu busnesau, a hefyd ar y bywyd personol.
"Os oes un person eisiau mynd mas i weithio ar y fferm, pwy sy'n edrych ar ôl y person arall yn y tŷ?
"Falle yn arferol, taw gŵr y ffarm sydd wedi bod 'neud y gwaith, ond falle os taw'r gŵr sy'n dioddef o ddementia, falle bod y wraig yn gorfod neud y gwaith yn lle 'ny.
"Falle bod rhywun yn arfer mynd i wahanol gymdeithasau a phwyllgorau cymunedol, a nawr yn methu mynd. Felly mae unigrwydd yn gallu bod yn broblem hefyd."
Fe ychwanegodd bod ffermwyr yn gallu cysylltu â Rhwydwaith y Gymuned Ffermio i dderbyn cymorth mewn nifer o ffyrdd.
Os ydy cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael fan hyn.