Newyddion S4C

Cymorth i farw: Aelodau Seneddol i bleidleisio ar gyfraith newydd bosib

29/11/2024

Cymorth i farw: Aelodau Seneddol i bleidleisio ar gyfraith newydd bosib

Bydd Aelodau Senedd yn San Steffan yn pleidleisio ddydd Gwener ar gyfraith newydd bosib ar gymorth i farw.

Mae'r mater wedi bod yn bwnc llosg dros yr wythnosau diwethaf, ar ôl i Aelod Seneddol Llafur, Kim Leadbeater, gynnig deddf i'w wneud yn gyfreithlon i bobl gael cymorth i farw o dan rhai amodau arbennig.

Pe bai'r cynnig yn dod yn gyfraith, byddai oedolion sydd yn dioddef o salwch terfynol, lle mae disgwyl iddyn nhw farw o fewn chwe mis, yn gymwys i gael cymorth i farw. Byddai'n rhaid i’r person fod yn ei iawn bwyll i wneud y penderfyniad i ddod â'u bywyd i ben.

Ar ddiwrnod y ddadl a'r bleidlais gyntaf, beth yn union yw cymorth i farw ac oes disgwyl i'r ddeddf newydd gael ei phasio?

Beth yw cymorth i farw?

Yn ôl ymgyrchwyr sydd eisiau gweld newid, mae cymorth i farw yn caniatáu i berson sydd â chyflwr nad oes modd gwella ohono i ddewis pryd mae nhw'n dymuno marw, os yw eu dioddefaint yn annioddefol.  

Maen nhw'n dadlau y dylai pobl yn y fath sefyllfa fod â'r hawl i ddewis sut maen nhw'n marw.  

Ond mae grwpiau eraill yn dadlau mai dynladdiad gyda chymorth yw hynny. Maen nhw o'r farn y dylid rhoi'r pwyslais ar hybu mwy o gymorth diwedd oes, yn hytrach na newid unrhyw gyfraith.  

Beth yw'r gyfraith presennol? 

Mae cynorthwyo rhywun i farw yn drosedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gydag uchafswm o 14 mlynedd mewn carchar.  

Dyw rhoi cymorth i farw ddim yn drosedd swyddogol yn yr Alban, ond mae cynorthwyo rhywun i farw yn golygu y gallai person gael ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Yn ogystal, gallai unrhyw un sy'n helpu rhywun i deithio dramor i farw mewn gwlad lle mae cymorth i farw yn gyfreithlon, fel y Swistir neu Canada, gael eu herlyn.

Beth sydd yn digwydd yn San Steffan?

Cyflwynodd yr Aelod Seneddol Llafur Kim Leadbeater ei Mesur Oedolion sy'n Derfynol Wael (Diwedd Oes) i'r Senedd ym mis Hydref.

Mae disgwyl i ddadl a phleidlais gyntaf gael eu cynnal ddydd Gwener.

Os bydd y Bil yn pasio’r cam cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin, bydd yn mynd i bwyllgor, lle gall Aelodau Seneddol gyflwyno gwelliannau, cyn wynebu craffu pellach a phleidleisiau yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Byddai hynny'n golygu na fyddai unrhyw newid yn y gyfraith yn digwydd tan y flwyddyn nesaf ar y cynharaf.

Byddai Bil Ms Leadbeater yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig.

Pwy fydd yn gymwys i gael cymorth i farw?

Bydd oedolion sydd yn dioddef o salwch terfynol lle mae disgwyl iddyn nhw farw o fewn chwe mis yn gymwys ar gyfer cael cymorth i farw. 

Mae'n rhaid i’r person fod yn ei iawn bwyll i wneud penderfyniad am ddod â'u bywyd i ben. Rhaid iddyn nhw fynegi dymuniad "clir, sefydlog a gwybodus" a hynny heb orfodaeth na phwysau. Nid yw'r Bil yn cynnwys anabledd a salwch meddwl fel meini prawf. 

Os caiff y Bil ei basio, dim ond trigolion parhaol Cymru a Lloegr sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu am o leiaf 12 mis fydd yn gymwys.

A fydd mesurau diogelu o dan y Bil?

O dan y ddeddfwriaeth arfaethedig, byddai'n anghyfreithlon i orfodi neu roi pwysau ar rywun i ddewis cymorth i farw. Gallai unrhyw un sy'n gwneud hynny wynebu hyd at 14 mlynedd yn y carchar.

Beth yw barn y cyhoedd?

Mae'r farn ymysg aelodau'r cyhoeddi yn amrywio.

Awgrymodd ymchwil gan y Policy Institute and the Complex Life and Death Decisions ym mis Medi fod bron i ddwy rhan o dair (2/3) o bobl yng Nghymru a Lloegr o blaid y bil ar gyfer oedolion â salwch angheuol.

O'r 2,000 o bobl gafodd eu holi mewn arolwg barn, roedd 63% o blaid cyfreithloni cymorth i farw, a 20% yn erbyn.

Ond roedd y rhai oedd yn lleisio cefnogaeth yn dweud y gallen nhw newid eu meddwl os oedden nhw'n teimlo bod rhywun wedi cael eu rhoi dan bwysau i ddewis marw â chymorth, neu wedi gwneud y dewis oherwydd diffyg mynediad at ofal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.