Andrew RT Davies yn ennill pleidlais hyder yn ei arweinyddiaeth
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies wedi ennill pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth.
Fe enillodd y bleidlais o naw pleidlais i saith - gan gynnwys ei bleidlais ei hun.
Digwyddodd y bleidlais yng nghyfarfod wythnosol bore Mawrth o’r grŵp Ceidwadol ym Mae Caerdydd.
Mae Mr Davies wedi bod yn y swydd ers 2021 - ei ail gyfnod fel arweinydd y blaid yn y Senedd wedi iddo hefyd fod yn arweinydd rhwng 2011 a 2018. Cafodd ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf yn 2007.
Mae rhai o'i sylwadau yn y flwyddyn ddiwethaf wedi cael eu beirniadu gan rai o'i gyd-aelodau yn y blaid.
Ym mis Gorffennaf, honnodd fod plant ysgol ym Mro Morgannwg yn "cael eu gorfodi" i fwyta cig Halal - honiad gafodd ei wrthod gan yr ysgol. Cafodd ei sylwadau eu beirniadu gan Gyngor Mwslemaidd Cymru, a gyhuddodd Mr Davies o hiliaeth.
Yn ogystal mynegodd nifer o Geidwadwyr Cymreig amlwg bryder am ei eiriau, gan gynnwys ei gyd-aelod Mwslemaidd, Natasha Asghar.
Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, rhoddodd wahoddiad i ymwelwyr â Sioe Sirol Bro Morgannwg "bleidleisio" mewn blwch a ddylid diddymu'r Senedd neu beidio.
Derbyniodd gerydd swyddogol ym mis Hydref ar ôl i Bwyllgor Safonau’r Senedd ddweud ei fod wedi dwyn anfri ar y Senedd drwy alw terfyn cyflymder 20mya Cymru yn bolisi “blanket”.
Mae'r tri arolwg barn ddiweddaraf ar etholiadau’r Senedd wedi awgrymu fod y Ceidwadwyr yn y 4ydd safle, neu’n gydradd gyda Reform yn 3ydd.
Rhagor i ddilyn...