Agor banc bwyd lleol yn helpu pobl sy'n 'gorfod dewis rhwng biliau a bwyd'
Agor banc bwyd lleol yn helpu pobl sy'n 'gorfod dewis rhwng biliau a bwyd'
Agor hwb cymunedol yw’r “peth gorau erioed” sydd wedi digwydd yn un o bentrefi “mwyaf difreintiedig” y Cymoedd – yn enwedig i bobl sydd bellach yn “gorfod dewis rhwng biliau a bwyd” yn ôl bobl leol.
Agorodd Cap y Gymuned yn Abercwmboi, Cwm Cynon ei ddrysau yn gynharach y mis hwn gyda’r nod o ddarparu nwyddau a gwasanaethau yn rhad ac am ddim i drigolion lleol.
Bydd pobl yn gallu cael mynediad at bantri bwyd, banc hylendid, a siop lle y gall rhieni gyfnewid hen ddillad ysgol eu plant am rai newydd y tu mewn i uned ar safle Ysgol Gynradd Capcoch.
Bydd cyrsiau ymarferol, gan gynnwys gwersi coginio a mathemateg, hefyd yn cael eu cynnal y tu mewn i’r uned drws nesaf, sydd â chegin a lolfa newydd ynddi.
'Stryglo'
Mae Jade Jones yn rhiant sy’n byw yn lleol ac mae ei phlant yn mynd i Ysgol Gynradd Capcoch. Mae’n dweud y bydd yr hwb o gymorth i nifer o bobl yn yr ardal sydd yn dioddef yn sgil yr argyfwng costau byw.
“Mae pobl yn rili stryglo gyda phopeth sy’n mynd ymlaen dyddiau ‘ma,” meddai.
“Da ni’n gorfod dewis rhwng ein biliau a bwyd weithiau a dwi jyst yn meddwl y bydd hyn yn rhoi ychydig o help ychwanegol.
“Pe bai’n hen berson sydd yn dod i 'nôl nwyddau neu berson ifanc sydd yn stryglo, fe allan nhw ddod yma a dewis cwpwl o bethau am bunt neu ddwy bunt, ble yn y siopau y byddai’n dod at gyfanswm o £15-£20.
“Dwi’n meddwl y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr.”
Cefnogi'r gymuned
Mae athrawon Ysgol Gynradd Capcoch yn dweud eu bod nhw wedi bod yn “awyddus” i ddarparu gwasanaeth o’r fath i rieni disgyblion yn ogystal â’r gymuned ehangach ers talwm.
“Mae’r rhieni i gyd wedi bod yn awyddus iawn i cael pethe’ fel y pantri bwyd a rhywle maen nhw mynd i ‘neud cyrsiau a pethe’ fel ‘na,” meddai Lauren Parry (ar y dde yn y prif lun) sy’n athrawes yn yr ysgol.
“Mae’r athrawon i gyd jyst yn awyddus i’r rhieni hefyd cael y cyfleoedd ni’n ceisio rhoi i’r plant.”
Ychwanegodd Hannah Evans, sydd hefyd yn athrawes yno, mai gobaith nhw yw “cefnogi” rhieni a theuluoedd yr ardal gyda’r hwb.
'Rhoi dyheadau'
Mae staff yr ysgol wedi bod yn gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau bod Cap y Gymuned yn agor – a neb yn fwy ‘na Clare Parry, sy’n Swyddog Cyswllt Teuluoedd yn yr ysgol.
Fe wnaeth Ms Parry, sy’n fam i’r athrawes Lauren Parry, nifer o geisiadau am grantiau er mwyn ariannu’r prosiect, gan lwyddo i ennill cyllid gwerth £24,800 drwy grant cwmni fferm gwynt Pen y Cymoedd.
Ers iddi gael ei phenodi yn ei rôl ym mis Chwefror 2023, dywedodd ei bod wedi bod yn angerddol dros greu cyfleusterau i’w chymuned.
Mae wedi byw yn Abercwmboi am tua 15 mlynedd ac yn ymwybodol o’r heriau y mae pobl o’i chwmpas yn eu hwynebu, meddai.
“Mae’n codi pobl ac yn rhoi dyheadau iddyn nhw,” meddai wrth drafod Cap y Gymuned.
'Diolchgar'
Mae Ysgol Gynradd Capcoch ymhlith 29 o ysgolion yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi derbyn cyllid ar gyfer rôl Swyddog Cyswllt Teuluoedd.
Dywedodd y cynghorydd lleol, Julie Cook, nad yw’n gallu “diolch i Clare yn ddigon” am ei hymdrechion.
“Mae ‘di helpu gymaint o ran tlodi, pobl sy’n teimlo’n unig, pobl sy’n stryglo gyda maths a darllen, bydd pob dim ar gael yma gan ddiolch i Clare," meddai.
“Dyma yw’r peth gorau sydd erioed wedi digwydd yn Abercwmboi."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf ei bod yn “amlwg” bod Ysgol Gynradd Capcoch yn cael budd o gefnogaeth Ms Parry.
“Rydym mor falch o Ysgol Gynradd Capcoch ac yn awyddus i’w cefnogi," meddai'r llefarydd.
“Hoffai’r Cyngor hefyd bwysleisio’r gefnogaeth sydd ar gael i drigolion a theuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd ar draws ein cymunedau yn ehangach."
Dywedodd y bydd modd i drigolion Rhondda Cynon Taf gael gafael ar gefnogaeth a gwybodaeth i’w helpu yn ystod yr argyfwng costau byw fan hyn.