Ail-ystyried cynlluniau i gau pedair ysgol yng Ngheredigion
Ail-ystyried cynlluniau i gau pedair ysgol yng Ngheredigion
Mae Cyngor Ceredigion yn ystyried gwneud tro pedol ar gynllun i gau pedair ysgol gynradd yn y sir.
Roedd y cyngor yn ystyried cau Ysgol Craig yr Wylfa, Borth, Ysgol Llanfihangel y Creuddyn ac Ysgol Llangwyryfon, i'r de o Aberystwyth, ac Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd.
Ym mis Medi, fe gymeradwyodd y cyngor ddechrau ar ymgynghoriad i gau'r ysgolion, gyda niferoedd isel o ddisgyblion a thoriadau yn gyfrifol am y penderfyniad.
Roedd yr ymgynghoriad yn ystyried cau'r ysgolion o 31 Awst y flwyddyn nesaf.
Mae gan bob un o’r ysgolion bellach lai na 30 o ddisgyblion, gydag 19 yn unig yn Ysgol Llanfihangel y Creuddyn.
Mae un o’r ysgolion, Ysgol Syr John Rhys, hefyd yn wynebu diffyg ariannol o ran gwaith cynnal a chadw o £77,500, meddai swyddogion y cyngor.
Mae dogfen ar gyfer cyfarfod y Cabinet a fydd yn cael ei gynnal ddydd Mawrth nesaf yn nodi y dylid ystyried trin yr ymgynghoriad statudol presennol bellach fel un "anffurfiol".
Mae hyn yn ôl y ddogfen er mwyn "casglu rhagor o wybodaeth" cyn dod i benderfyniad.
Ar 19 Tachwedd, fe dderbyniodd yr awdurdod lleol wrthwynebiad ffurfiol, am nad oedd y penderfyniad yn un "ymarferol" ac roedd angen ei "ailystyried".
Roedd gwrthwynebiad yn lleol, gan gynnwys grŵp ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith a ddywedodd y byddai'n “tanseilio nifer o gymunedau Cymraeg”.
Wedi'r ymgynghoriad anffurfiol, fe fydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet, gydag unrhyw gynigion yn cael eu cyflwyno maes o law.