Tiwmor yr ymennydd 'byth am stopio' enillydd Milfeddyg y Flwyddyn o Sir Gâr
Mae menyw o Sir Gâr sydd wedi ennill gwobr Milfeddyg y Flwyddyn wedi dweud na fydd ei diagnosis o diwmor yr ymennydd “byth yn fy stopio”.
Fe gafodd Philippa Hughes, sy’n filfeddyg a chydberchennog Clinig Ceffylau Dyffryn Tywi yn Nantgaredig, ei hanrhydeddu yn ystod gwobrau The Horse & Hound nos Fercher.
Ers iddi gael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd yn 2019, mae Philippa wedi cael llawdriniaeth deirgwaith yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf er mwyn ceisio mynd i’r afael â’i salwch.
Mae’n byw gyda thiwmor ar chwarren ‘pituetory’ ei hymennydd.
Ac er ei bod yn parhau i dderbyn triniaeth am ei chyflwr, mae wedi dweud na fydd y salwch yn ei hatal hi rhag gwneud ei gwaith gan ei fod yn “ffordd o fyw.”
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Dyw e ddim yn stopio fi.
“Dwi dal yn gweithio’n llawn amser fel milfeddyg, dwi dal yn gweithio y tu allan i oriau arferol.
“Fel milfeddyg, dwi’n angerddol na fyddai unrhyw beth fel ‘na yn fy stopio i.
“Da ni gyd yn cael dyddiau gwael fel pobl. Ond fy mywyd i yw bod yn filfeddyg… dyw e heb atal fi o gwbl,” meddai.
'Cymru ar y map'
Fe gafodd Philippa wybod yn ystod y seremoni wobrwyo nos Fercher mai hi yw’r milfeddyg ceffylau cyntaf o Gymru i ennill y wobr.
“Roedd rhoi Cymru ar y map yn ardderchog. Yn enwedig o ardal wledig fechan, ‘da ni’n glinig annibynnol bach hefyd," meddai.
“Mae bod yn filfeddyg yn ffordd o fyw i mi. Dwi ddim angen cydnabyddiaeth ar ei chyfer, ond mae’r ffaith bod fi wedi – mae’n golygu’r byd i mi,” meddai.
Mae’n dweud fod y diwydiant milfeddygol wedi troi’n fwy “corfforaethol” yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Felly i filfeddyg annibynnol bach gael ei chydnabod, a hefyd sydd yn cyflogi pobl leol yn y gymuned Gymreig, mae’n bwysig iawn.”
Fe gafodd Clinig Ceffylau Dyffryn Tywi ei sefydlu yn 2006. Lisa Durham yw gydberchennog y busnes gyda Philippa Hughes.
“Da ni’n dîm bach, yn agos iawn, a digwydd bod, 'da ni gyd yn fenywod,” medd Philippa.
“Da ni gyd yn berchen ar geffylau, da ni gyd yn eu caru nhw a da ni gyd eisiau darparu’r gofal milfeddygol posib iddyn nhw.”