Newyddion S4C

Carchar am oes i ddyn am lofruddio dyn arall yng Nghasnewydd

28/11/2024
david sisman.png

Mae dyn wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio dyn arall yng Nghasnewydd ym mis Mai eleni.

Ymddangosodd David Sisman, 21, o Gasnewydd yn Llys y Goron y ddinas ddydd Iau ar ôl iddo ei gael yn euog o lofruddio Lee Crewe, 36, wedi achos llys fis diwethaf. 

Mae wedi cael ei garcharu am oes, ac fe fydd yn rhaid iddo dreulio cyfnod o leiaf 24 mlynedd o dan glo. 

Fe gafodd Mr Crewe ei drywanu gan Sisman ger Heol Chepstow yn y ddinas ar 14 Mai, a bu farw yn y fan a'r lle. 

Fe wnaeth Sisman ffoi o'r ardal, gan gael gwared ar ei arf, newid ei ddillad. a theithio i Fryste. 

Dywedodd rhieni Lee Crewe, Joanne a David Crewe: "Ar 14 Mai, fe chwalwyd ein byd ni pan y cafodd ein mab Lee ei drywanu a'i lofruddio gan David Sisman. 

"Roedd Lee yn fachgen doniol, ac roedd cymaint o bobl yn ei garu, a doedd e ddim yn haeddu marw yn 36 oed. 

"Mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn hunllef fyw, ond hoffem ddiolch i Heddlu Gwent am yr holl waith caled a'r gefnogaeth y maen nhw wedi rhoi i ni yn ein colled."

Dywedodd yr uwch swyddog yn yr ymchwiliad, y Ditectif Brif Arolygydd Virginia Davies: "Mewn mater o eiliadau, fe gafodd Lee Crewe ei anafu yn angheuol mewn gweithred ofnadwy o drais. 

"Mae gweithredoedd y dyn peryglus yma wedi chwalu bywydau teulu a ffrindiau Lee.

"Mae cyllyll yn dinistrio bywydau, ac mae'r achos yma yn pwysleisio unwaith eto yr effaith barhaol y gall cario cyllell ei chael ar bawb sy'n gysylltiedig. Os ydych chi'n cario cyllell, mae'n fater o amser cyn eich bod chi'n ei defnyddio, neu i rywun ei defnyddio arnoch chi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.