Undeb Rygbi Cymru: ‘Llawer i’w ddysgu’ gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru
Mae arweinwyr Undeb Rygbi Cymru wedi dweud fod ganddyn nhw “lawer iawn” i’w ddysgu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Roedd hynny'n cynnwys hyrwyddo'r iaith Gymraeg ac "adeiladu amgylchedd gynhwysol" meddai prif weithredwr yr undeb, Abi Tierney.
Fe wnaeth hi a chadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, ymddangos o flaen y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol fore dydd Iau.
Daw hyn wedi cyfnod anodd i'r Undeb, gan gynnwys ymddiheuriad ddechrau’r mis am y modd yr oedd wedi trafod cytundebau gydag aelodau o dîm menywod rygbi Cymru.
Dywedodd Abi Tierney ei bod hi bellach fel prif weithredwr URC yn cael llawer o gefnogaeth gan Alys Carlton, cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Wrth ymateb i gwestiwn gan yr Aelod o Senedd Cymru, Rhun ap Iorwerth, a oedden nhw’n dysgu unrhyw beth gan y gymdeithas, atebodd y ddau: “Llawer iawn.”
“Rydyn ni’n siarad â nhw yn aml,” meddai Abi Tierney.
“Mae Alys Carlton y cadeirydd yno yn un o’r bobl sydd wedi fy nghefnogi i fwyaf pan mae pethau wedi bod yn anodd.
“Un o’r pethau rydyn ni wedi dysgu amdanyn nhw yn benodol ydy eu defnydd nhw o’r iaith Gymraeg.
“Mae’n rhywbeth mae llawer iawn o bobl ifanc yn benodol eisiau gweld mwy ohono.
“Felly rydyn ni wedi bod yn dysgu am yr hyn y maen nhw wedi bod yn ei wneud ar hyn o bryd, a byddwch yn gweld rhywfaint o hynny yn dod allan yn ein strategaeth.
“Rydyn ni wedi dysgu am sut y maen nhw wedi adeiladu amgylchedd gynhwysol, ond hefyd ar yr ochr perfformiadau.”
‘Dryslyd’
Dywedodd y cadeirydd Richard Collier-Keywood nad oedd dim byd “rhywiaethol” am y ffordd y cafodd trafodaethau cytundeb tîm y merched eu cynnal yn gynharach eleni.
Roedd papur newydd The Daily Telegraph wedi adrodd bod honiadau o wahaniaethu ar sail rhyw yn y modd y cafodd y trafodaethau eu cynnal.
Ond gwrthododd Richard Collier-Keywood yr awgrym hwnnw.
“Roedd yna gam-adrodd ar ganlyniadau'r adolygiad, a hynny gan y Telegraph oedd wedi arwain gyda phennawd ar wahaniaethu ar sail rhyw,” meddai.
“A’r un peth na chafodd ei grybwyll gan unrhyw un oedd yn rhan [o’r trafodaethau] oedd rhywiaeth.
“Roedd yna nifer o fethiannau ond doedden nhw ddim yn ymwneud â rhywiaeth.”
Roedd honiadau bod y chwaraewyr wedi cael tair awr i benderfynu ar arwyddo’r cytundeb ym mis Awst gyda’r bygythiad na fydden nhw’n cael lle yng nghystadleuaeth WXV2 Chwpan Rygbi’r Byd yn 2025 os nad oedden nhw’n gwneud hynny.
“Ddylen ni yn sicr ddim fod wedi rhoi tair awr i'r chwaraewyr lofnodi'r cytundebau,” meddai Richard Collier-Keywood.
“Ac nid dyna fyddai fy nealltwriaeth i o arfer da, ac yn sicr nid yw'n arfer yr wyf am ei weld yn Undeb Rygbi Cymru.”
Ond dywedodd bod y menywod wedi eu trin yn wahanol i’r dynion am eu bod nhw wedi eu cyflogi yn uniongyrchol gan yr undeb.
“Ein hanes yw bod ein chwaraewyr gwrywaidd mewn gwirionedd wedi’u contractio i’r clybiau rhanbarthol,” meddai.
“A dw i ddim yn meddwl ein bod ni wedi ystyried y gwahaniaeth hwnnw'n llawn. Nid oedden ni’n trin y merched fel gweithwyr cyflogedig mewn gwirionedd.
“Ac roedd hynny'n ddryslyd ac yn anodd, ac nid oeddem yn cyflawni ein dyletswyddau tuag at y menywod y dylem fod wedi bod yn eu gwneud ar yr adeg honno.”