Rhybudd melyn am niwl ar y ffin fore dydd Iau
28/11/2024
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am niwl mewn ardaloedd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr fore dydd Iau.
Fe fydd y rhybudd mewn grym tan 11.00.
Fe allai hyn arwain at amodau gyrru gwael ar y ffyrdd, gyda'r niwl yn drwch mewn mannau.
Gallai hyn olygu niwl trwchus hyd at 100m i ffwrdd o deithwyr ac mae gyrwyr yn yr ardaloedd lle mae'r rhybudd yn cael eu cynghori i addasu eu cyflymder pan fo angen.
Dywed y Swyddfa Dywydd y galli'r niwl effeithio ar deithiau trenau a theithiau awyrennau o feysydd awyr.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer siroedd Wrecsam, Sir y Fflint, Casnewydd a Sir Fynwy.