Protest gan ffermwyr yn cau mynedfa porthladd Caergybi
Protest gan ffermwyr yn cau mynedfa porthladd Caergybi
Mae ffermwyr wedi cau porthladd Caergybi am gyfnod nos Fercher mewn protest am newidiadau i'r dreth etifeddiaeth.
Fe gafodd protest debyg ei chynnal ym mhorthladd Dover ddydd Mercher mewn gwrthwynebiad i'r newid.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y cyflwynydd a'r ffermwr adnabyddus Gareth Wyn Jones mai "ffermwyr ydy'r olaf i fynd allan a phrotestio oherwydd mae ganddynt waith i neud yn edrych ar ôl eu hanifeiliaid a'u cnydau.
"Ond mae'r rhwystredigaeth, y dicter a'r anhrefn sy'n digwydd yma yn y DU gyda threth etifeddiaeth a sawl her arall i'r sector amaethyddol - dyna'r rheswm y mae ffermwyr allan yn eu tractors yn y porthladdau."
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid i amaethwyr dalu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol gwerth dros £1 miliwn.
Bydd yn rhaid talu'r dreth yma dros gyfnod o 10 mlynedd ar unrhyw eiddo sy'n uwch na £1m. Gallai'r ffigwr yna fod yn £2m mewn achosion lle mae cwpwl yn gadael eu heiddo i blant neu blentyn.
Mae data’r Trysorlys yn dangos na fydd tua 75% o ffermwyr yn talu unrhyw dreth etifeddiant ychwanegol o ganlyniad i’r newidiadau a gyhoeddwyd yn y Gyllideb.
Ond mae ffermwyr wedi herio’r ffigurau. Maen nhw yn cyfeirio at ddata gan Defra sy’n awgrymu bod 66% o fusnesau fferm yn werth mwy na’r trothwy o £1 miliwn y bydd yn rhaid talu treth etifeddiant arno o achos y newidiadau.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Llun eu bod nhw’n “dileu” targed a fyddai wedi gofyn i ffermio sicrhau bod o leiaf 10% o’u ffermydd wedi eu gorchuddio gan goed cyn derbyn cyllid.
Dywedodd y llywodraeth y bydd y targed yn cael ei ddisodli gan darged ar gyfer y cynllun ar draws Cymru gyfan yn hytrach na ffermydd unigol.
Nod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy'n gwobrwyo ffermydd am ddulliau ffermio sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd oedd bod ffermwyr yn plannu coed ar 10% o’u tir a neilltuo 10% arall ar gyfer cynefinoedd.
Ond roedd wedi arwain at brotestiadau chwyrn gan ffermwyr, gan gynnwys y tu allan i’r Senedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dileu y gofyniad cyntaf ar blannu coed ond wedi cadw'r ail ar gynefinoedd.
Llun: Hywel Pritchard