Ffair Aeaf: Ffermwyr llawr gwlad yn benderfynol yn erbyn y dreth etifeddiant
Ffair Aeaf: Ffermwyr llawr gwlad yn benderfynol yn erbyn y dreth etifeddiant
Y diwydiant amaethyddol yn uno eto yn y Ffair Aeaf a digon o gnoi cil dros y dreth etifeddiant.
Ers 2018, mae Milwyn Davies wedi bod yn buddsoddi a thyfu ei fusnes er mwyn pasio'r awenau ymlaen i'w fab a'i ferch.
Byddai cyflwyno'r dreth etifeddiant yn golygu gwerthu'r tir mae wedi gweithio'n galed i'w brynu dros y chwe mlynedd ddiwethaf.
"Mae 'da fi mab, merch ac wyrion. Mae eisiau cadw'r bobl ifanc 'ma mewn gwaith a gwneud bywoliaeth.
"Fel hyn, maen nhw eisiau cael gwared a hynny i gyd. Maen nhw eisiau diwedd ni o hyd."
"Twlu popeth yn erbyn ni a cherdded dros ein pennau ni'n gweld e. Mae'n dorcalonnus."
Mae trafod a phwyso ar Lywodraeth Prydain i ail-ystyried.
Mewn cyfarfod gyda Keir Starmer ar Stryd Downing ddoe bu Llywydd Cenedlaethol yr NFU yn trafod y ffordd ymlaen.
"Roedd y Prif Weinidog yn cydnabod bod fwy o dystiolaeth. Wedyn, yn gofyn am amser i ystyried y dystiolaeth yma.
"Ni'n disgwyl ymateb gan y Prif Weinidog maes o law. Boed hynny erbyn diwedd yr wythnos, allai ddim a dweud."
Yn ôl asesiad diweddar o'r dreth gan gwmni annibynnol bydd 76% o ffermydd Prydain yn gweld effaith o gyflwyno'r dreth.
"Mae'n cael mwy o effaith na'r nifer mae'r Llywodraeth yn dweud. O'n profiad ni, mae pobl yn cael eu heffeithio gan y rheolau 'ma.
"Rydym yn annog pobl i fynd i siarad i gael cyngor."
Yn ôl Llywodraeth Prydain, dydy hi ddim yn bosibl amcangyfrif gwir effaith y dreth etifeddiant o ffigyrau net gan fod amgylchiadau yn wahanol o un fferm i'r llall.
Bydd ffermydd sydd werth dros £1 miliwn yn wynebu treth o 20%. Treth deg a chytbwys yn ôl Llywodraeth Prydain ond nid dyna'r farn ar lawr gwlad.
Y brotest yn Llundain wythnos yn ôl yn brawf o hynny.
"Mae pawb yn meddwl bod gan ffermwyr llawer o arian yn eu poced ôl. "Does dim i gael, ni'n buddsoddi fe ac yn cadw cefn gwlad i fynd."
"Mae'n poeni fi o ran buddsoddi mewn i'r ffarm. Os ydyn ni'n edrych ar long-term sustainability o ffermydd mae eisiau investo mewn ffermydd.
"Mae'r arian bydden ni 'di defnyddio i wella'r ffarm yn gorfod mynd mewn i dalu'r tax yn lle."
O'r genhedlaeth hynaf i'r ieuengaf mae brwydr yn erbyn cynlluniau Llywodraeth Prydain er mwyn achub dyfodol y fferm deuluol.