Dyn yn euog o lofruddio ei gymydog yng Nghlydach
Rhybudd - Mae'r erthygl ganlynol yn cynnwys disgrifiadau o drais eithafol
Mae dyn a oedd wedi ei garcharu am ladd dau berson wedi ei gael yn euog o lofruddio ei gymydog ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar.
Roedd Brian Whitelock eisoes wedi treulio 17 mlynedd yn y carchar am lofruddio a dynladdiad, cyn iddo ymosod ar Wendy Buckney, 71, yn ei fflat yng Nghlydach, ger Abertawe ar 23 Awst 2022.
Clywodd y rheithor yn Llys y Goron Abertawe bod Whitelock wedi ymosod “yn barhaus” ar Ms Buckey gyda chyllell, coes bwrdd, a silff bren.
Roedd Ms Buckney wedi dioddef ymosodiad rhyw ac artaith cyn cael ei churo i farwolaeth. Fe gafodd ei chorff ei ddarganfod yn ystafell fyw ei chartref.
Clywodd y rheithgor bod Whitelock wedi cael dedfryd oes o garchar yn 2001. Ond cafodd ei ryddhau yn 2018.
Roedd Whitelock, o Heol Tanycoed, Clydach wedi pledio’n euog i ddynladdiad am nad oedd yn ei iawn bwyll, ond yn gwadu llofruddiaeth.
Ar ddiwedd achos a wnaeth bara pythefnos, fe gymerodd y rheithgor 30 munud i benderfynu bod Whitelock yn euog o lofruddio Ms Buckney.
Ar ôl i’r barnwr Mr Justice Griffiths rhoi’r dyfarniad, gwaeddodd Whitelock o’r doc: “Dwi’n gobeithio y byddwch chi’n dioddef anaf ar yr ymennydd.”
Fe ddywedodd y barnwr wrth y rheithgor: “Rwy’n ymddiheuro am yr ymddygiad gwarthus, fe allwch chi fod yn sicr bod Mr Whitelock mewn lle nad yw’n gallu achosi unrhyw niwed o gwbl i chi.”
Hanes o drais
Clywodd y rheithgor bod Whitelock wedi cael dedfryd oes o garchar yn 2001. Ond cafodd ei ryddhau yn 2018.
Yn 2000, roedd wedi curo Nicholas Morgan i farwolaeth gyda choes bwyell, cyn rhoi’r corff ar dân. Fe wnaeth brawd Whitelock, Glen, farw yn ddiweddarach yn y tân.
Clywodd y rheithgor fod gan Whitelock hanes o drais ac roedd wedi bod yn gaeth i gyffuriau ers tro.
Yn ymateb i’r euogfarn, dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Matt Davies bod yr achos wedi bod yn un “trawmatig” i deulu Ms Buckney.
“Rydym yn falch o glywed am y dyfarniad euog, gan gloi’r hyn sydd wedi bod yn ymchwiliad trylwyr i lofruddiaeth ddisynnwyr Brian Whitelock o’i ddioddefwr diniwed.
“Mae teulu Wendy Buckney wedi ddioddef trawma ofnadwy oherwydd gweithredoedd Brian Whitelock.
“Gyda’r dyfarniad hwn a’r ddedfryd sydd i ddod, rwy’n gobeithio y byddant yn teimlo bod y bennod nawr ar gau.”
Teyrnged
Mewn datganiad, dywedodd teulu Wendy Buckney: “Mae rheithfarn heddiw yn dod â rhywfaint o gyfiawnder i Wendy a gymerwyd oddi wrthym yn llawer rhy fuan.
“Er na all unrhyw beth ddod â hi yn ôl, rydym yn ddiolchgar bod y gwir wedi’i glywed.
"Roedd Wendy yn chwaer ac yn fodryb annwyl iawn yr oedd ei charedigrwydd, ei chwerthin a'i hysbryd yn cyffwrdd â chymaint o fywydau.
“Fydd ein bywydau ni fyth yr un peth hebddi, ond byddwn yn parhau i anrhydeddu ei chof bob dydd.
"Mae hon wedi bod yn daith boenus a thorcalonnus i'n teulu. Diolchwn i bawb sydd wedi ein cefnogi yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn, a gofynnwn am breifatrwydd wrth i ni barhau i alaru yn sgil y drasiedi hon.”
Bydd Brian Whitelock yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener 20 Rhagfyr.