Undeb Rygbi Cymru yn arwyddo cytundeb gyda chorff cydraddoldeb
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi arwyddo cytundeb cyfreithiol gyda rheoleiddiwr cydraddoldeb ar ôl pryderon am ddiwylliant yn y gweithle yn ymwneud â gwahaniaethu ac aflonyddu.
Mae'r cytundeb gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn nodi'r hyn sydd ei angen i'r undeb ei wneud er mwyn 'gwella ei bolisïau, ei arferion a'i ddiwylliant yn y gweithle'.
Mae hyn yn ôl y Comisiwn er mwyn amddiffyn gweithwyr rhag gwahaniaeth ac aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol.
Ar raglen gan y BBC ym mis Ionawr 2023, clywyd honiadau am agweddau rhywiaethol a misogynistaidd yn yr undeb.
Ymddiswyddodd y prif weithredwr Steve Phillips ac fe gomisiynodd Undeb Rygbi Cymru ymchwiliad annibynnol a ddaeth i'r casgliad fod agweddau o’r sefydliad yn hiliol, rhywiaethol, misogynistaidd a homoffobig.
Daeth yr ymchwiliad hefyd i'r casgliad fod yna dystiolaeth o fwlio a gorddibyniaeth ar gytundebau peidio â datgelu (NDA) i atal gweithwyr rhag rhannu eu profiadau.
'Cam cyntaf pwysig'
Fel rhan o delerau'r cytundeb, mae URC wedi ymrwymo i:
- gyflwyno hyfforddiant gorfodol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) ar gyfer yr holl gyflogeion, aelodau bwrdd, rheolwyr ac uwch arweinwyr
- gyflwyno hyfforddiant gorfodol ar aflonyddu ac ymdrin â chwynion o aflonyddu rhywiol ar gyfer rheolwyr pobl
- gweithio gyda chynghorydd allanol i adolygu a diwygio ei bolisïau gweithle corfforaethol, gan gynnwys polisi aflonyddu rhywiol penodol
- gyflwyno system safonol i gofnodi a monitro cwynion gwahaniaethu ac aflonyddu
- adolygu'r defnydd o NDA
- gweithredu'r holl argymhellion sy'n weddill o'r adolygiad annibynnol
Fe fydd y Comisiwn yn monitro cwblhau'r camau gweithredu yn y cytundeb.
Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: "Fel corff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol Cymru, mae’r cyhoedd yng Nghymru yn disgwyl y safonau uchaf gan URC.
"Mae’r cytundeb cyfreithiol hwn yn gam cyntaf pwysig wrth i URC ailadeiladu ymddiriedaeth ei staff a’r genedl ehangach, ac rydym yn falch bod URC eisoes wedi dechrau gwneud cynnydd ar y camau gweithredu gofynnol."