Newyddion S4C

Carcharu dyn am achosi marwolaeth dyn 20 oed ym Mhen Llŷn

27/11/2024
Droy .png

Mae dyn 60 oed wedi cael ei garcharu am chwe blynedd ac wyth mis ar ôl achosi marwolaeth dyn ifanc ym Mhen Llŷn yng Ngwynedd. 

Bu farw Droy Darroch-York, 20, o ardal Nefyn ar 4 Mehefin 2022 wedi'r gwrthdrawiad.

Ymddangosodd Roger Peter Brenninkmeyer o Neston, Sir Gaer yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher ar ôl pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus mewn gwrandawiad ym mis Medi.

Yn ystod y gwrandawiad, clywodd y llys fod Brenninkmeyer wedi cyrraedd cyflymder o hyd at 109mya ar ffordd ym Mhentre-uchaf ger Pwllheli. 

Fe gollodd reolaeth o'i gerbyd BMW cyn iddo wrthdaro â cherbyd Ford Fusion oedd yn cael ei yrru gan Mr Darroch-York.

Wedi'r gwrthdrawiad, fe gafodd Brenninkmeyer ei gludo i'r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol, gan aros yno am sawl wythnos. 

Mae hefyd wedi derbyn gwaharddiad gyrru am 11 mlynedd ac fe fydd angen iddo wneud prawf estynedig wedi'r cyfnod hwnnw. 

Dywedodd swyddog yr ymchwiliad, PC Gareth Rogers o Heddlu'r Gogledd: "Roedd hon yn ddamwain drasig a arweiniodd yn ddi-angen at farwolaeth dyn ifanc 20 oed. 

"Mae'n pwysleisio y goblygiadau y mae gyrru yn beryglus ar gyflymder uchel iawn yn gallu eu cael.

"Er ei fod (Brenninkmeyer) bellach o dan glo, does dim byd yn mynd i ddod â Droy yn ôl, ac mae ein meddyliau yn parhau gyda'i deulu a'i ffrindiau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.