Newyddion S4C

Yr Eidal, Llydaw a Llanrwst: Tref yn bwriadu gefeillio gyda dwy dref yn Ewrop

28/11/2024
Llanrwst efeillio

Mae gobaith y bydd Llanrwst yn sefydlu cysylltiadau rhyngwladol â gwledydd yn Ewrop ar ôl derbyn ceisiadau i efeillio gyda dwy dref ar dir mawr y cyfandir.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth cyngor y dref dderbyn llythyr gan Gyngor Tref Grand-Champ yn Llydaw, yn eu gwahodd i ddatblygu perthynas swyddogol gyda nhw.

Un o gyn-drigolion y dref,  Helen Wyn Williams, sydd bellach wedi ymgartrefu yn Ffrainc, oedd y person a sbardunodd y syniad gyda’r cyngor yn Grand-Champ.

Image
Grand-Champ, Llydaw
Grand-Champ, Llydaw (Llun: Google Maps)

Yn ddiweddarach, daeth ail gais – yn gwbl ar wahân ac annisgwyl – gan dref yn ne’r Eidal o’r enw San Vito dei Normanni. 

Daeth y cais o ganlyniad i gyfarfod rhwng maer Llanrwst, y Cynghorydd Mostyn Jones, a oedd ar ei wyliau yn yr ardal Apulia, â maer y dref Eidaleg.

“Mae’r ddau beth di dechrau heb i ni fel Cyngor Tref orfod wneud dim byd,” meddai Mr Jones.

“Y ddwy dref arall sydd wedi estyn llaw allan i ni ac yn gwbl ar wahân.

“Grand-Champ oedd y cyntaf i gysylltu ac yn barod, mae 'na gysylltiad wedi datblygu rhwng Ysgol Bro Gwydir yn Llanrwst ac ysgol gynradd yn Grand-Champ, ond y cam nesaf rŵan ydi bod y Cyngor Tref yn cyfathrebu’n ffurfiol efo cyngor Grand-Champ.

Image
mostyn jones
Maer Llanrwst, y Cynghorydd Mostyn Jones

“Efo San Vito dei Normanni, esh i efo fy nheulu a ffrind ar fy ngwyliau i benrhyn Salento, yn ardal Apulia. 

“Tra o’n i allan yna, oedd na rhywun sy’n ffrind i ni, Valentino Argentieri, sydd yn ffariar i Filfeddyg Wern, sydd o San Vito dei Normanni yn wreiddiol – wedi sôn wrth maer y dref bod maer Llanrwst allan yna yn Salento ac mi oedd hi’n awyddus i gyfarfod."

Ychwanegodd: “Mae’r cynghorydd Huw Prys Jones, di cwrdd efo nhw wedyn ar ôl digwydd bwcio ei wyliau i fynd i’r un ardal digwydd bod, ac fe gafodd o gyfarfod buddiol iawn efo cadeirydd y pwyllgor cynllunio yn San Vito dei Normanni.  

"Ac erbyn hyn, da ni wedi derbyn e-bost ffurfiol gennyn nhw yn datgan gobaith nhw o gael cyfeillio efo Llanrwst.”

'Cyfle'

Er holl hanes cyfoethog y dref yn Nyffryn Conwy, nid yw erioed wedi gefeillio ag unrhyw drefi eraill. 

Mae’r Cyngor Tref yn gobeithio y gallai’r cysylltiadau newydd arwain at ragor o ymwelwyr, yn ôl y Cynghorydd Mostyn Jones.

Image
San Vito dei Normanni
San Vito dei Normanni

“Dwi’n credu y gallai hyn dyfu enw Llanrwst drwy Ewrop, ac mae 'na gyfle i ddod a mwy o dwristiaid yma,” meddai Mr Jones.

“Ond hefyd, mae ‘na gyfle i bobl ifanc tref ni i brofi diwylliant Llydaweg ac Eidaleg. Bydd o’n gyfle gwych i ni gael dysgu am ddiwylliannau ein gilydd a gweld be sy’n dod ohoni.

“Mae gennyn nhw sawl gwŷl diwylliannol wahanol yn Llydaw ac yn yr Eidal,  a da ni efo sawl gŵyl yn Llanrwst erbyn hyn hefyd, felly mae 'na lot o botensial.”

Mae’r gwaith o ffurfioli’r berthynas gyda’r ddwy dref yn parhau ar hyn o bryd, gyda’r cyngor yn cyfnewid dogfennau cyfreithiol gyda’u cyfeillion ar y cyfandir.

Er nad oes terfyn amser mewn golwg o ran sefydlu’r perthnasoedd yn ôl y Maer, dywedodd y byddai'r flwyddyn nesaf yn cynnig carreg filltir deilwng dros ben.

“Mi fydd hi yn 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, flwyddyn nesa, ac mi oedd ‘na wersyll i garcharorion rhyfel yma yn Llanrwst.

"Yn wreiddiol, milwyr Eidaleg oedd yn cael eu cadw yn y camp ma’, felly ‘da ni’n licio’r syniad na 80 mlynadd yn ddiweddarach, yn hytrach na bod ni’n dal y gelyn yn Llanrwst, da ni di newid i fod efo perthynas agos a chariad rhwng Llanrwst a de’r Eidal.”

Prif Lun: Y Cynghorydd Mostyn Jones yn cwrdd â Maer San Vito dei Normanni, Silvana Errico, ac aelodau eraill o'r cyngor. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.