Rhybudd fod cyflwr addysg gerddorol yng Nghymru 'mewn argyfwng dybryd'
Rhybudd fod cyflwr addysg gerddorol yng Nghymru 'mewn argyfwng dybryd'
Mae addysg gerddorol yng Nghymru mewn "argyfwng dybryd" yn ôl Wyn Thomas, Cadeirydd Canolfan Gerdd William Mathias.
Mae nifer y disgyblion Safon Uwch sy'n astudio cerdd wedi bron â hanneru mewn degawd. Roedd yna ostyngiad hefyd yn nifer y bobl ifanc sy'n dilyn cwrs cerddoriaeth TGAU.
Mae yna alw felly am fwy o ganolfannau cerdd ledled Cymru i fynd i’r afael â’r cwymp gydag adrannau cerdd prifysgolion yn nodi llai o fyfyrwyr ar eu cyrsiau.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi buddsoddi £13 miliwn mewn rhaglenni i gynnig cefnogaeth a chyfleoedd cerddoriaeth i bobl ifanc.
Mae Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru yn dweud fod 'gwaith arbennig' yn mynd ymlaen yn siroedd Cymru, ond bod y broses yma am 'gymryd amser'.
I Pat Evans Jones, mam i blentyn 17 oed o Lanybydder mae ceisio cael mynediad at Safon Uwch Cymraeg yn “straen aruthrol yn feddyliol, yn emosiynol yn ariannol” ar y teulu.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwrthod cais ac apel i’w merch allu gael trafnidiaeth o Lanybydder yng ngogledd y sir i Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin, sef yr ysgol agosaf sy’n cynnig cerddoriaeth Safon Uwch yn Gymraeg.
“Ar hyn o bryd fi’n gwario tua £100 yr wythnos ar disel i fynd nôl ac ymlaen i’r ysgol a ni’n dilyn y bys ysgol mewn i’r ysgol a dilyn e nôl,” meddai.
“Mae’r argyfwng costau byw yn anodd i bawb ond ma hwn yn gwasgu fi’n fwy. Fi hefyd yn rhiant sengl, felly ma hwn yn cwympo arno fi.
“Ma’r cyngor yn glynu i’w polisi yn rhy llythrennol i fod yn onest, ma nhw’n cadw gweud nid dyna’r ysgol agosa ond mae mo'yn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.”
“Mae mewn dwy feddwl o wneud cerddoriaeth, so tase hi ddim yn neud y lefel cerddoriaeth does dim modd iddi ddilyn gyrfa yn y brifysgol.
“I fynd â hwnna wrthi, dyw e ddim yn iawn i’w lles.”
Yn ôl y Cyngor Sir Gâr mae nhw'n “darparu cludiant am ddim i ddysgwyr sy'n hŷn na'r oedran ysgol gorfodol" ond dan 19 oed, cyn belled â'u bod "yn mynychu'r ysgol ddynodedig agosaf neu'n byw yn nalgylch yr ysgol ac yn byw ymhellach na'r pellter statudol o 3 milltir.”
Ers 2020 mae yna gwymp cyson wedi bod yn y nifer sy’n astudio cerddoriaeth drwy’r Gymraeg hefyd. Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, mae yna ostyngiad o 61 disgybl yn 2020/21 ac erbyn eleni mae hynny wedi syrthio i 48.
Dydy’r sefyllfa ddim yn anghyffredin sydd wedi ei chyfyngu i un iaith, un pwnc, nac i ardal y gorllewin yn unig, yn ôl ymgyrchwyr iaith.
“Ma nifer yn cysylltu â ni yn rheolaidd, mae’n gwyn sy’n codi yn aml ond mae bob un sy’n cysylltu â ni ma' na ddeg neu ddwsin sy ddim yn cysylltu â ni ac yn rhoi fewn i’r drefn fel ag y mae,” meddai Cadeirydd Pwyllgor Addysg Cymdeithas Yr Iaith, Toni Schiavone.
“Dylai addysg Gymraeg fod ar gael i bob plentyn, ym mhob cymuned yng Nghymru. Os nad yw e ar gael yn y gymuned honno, wel yna ddyle’r cyngor i hwyluso’r mynediad at addysg Gymraeg nid creu anawsterau.”
'Effaith andwyol'
Fe fuodd Wyn Thomas yn Uwch-ddarlithydd Cerdd ym Mhrifysgol Bangor ac mae e bellach yn Gadeirydd Canolfan Gerdd William Mathias. Mae’n dweud bod y rhwystrau i bobl astudio cerddoriaeth TGAU a Safon Uwch yn cael effaith ar y niferoedd sy’n astudio mewn prifysgolion.
“Ma cyflwr addysg gerddorol yng Nghymru mewn argyfwng dybryd. Y tuedd yw mae Llywodraeth Cymru yn dibrisio gwerth cerddoriaeth,” meddai.
“Ond yn ogystal o fewn llywodraeth leol, sydd ddim yn dosrannu yn y modd cywir ond yn hytrach ond yn rhoi cyfraniad bach iawn i gerddoriaeth fel testun a maes astudio.
“Ac oherwydd y gostwng yma mewn nifer y bobl sy’n astudio mewn ysgolion a’r diffyg athrawon cerdd o fewn ysgolion mae hynny’n mynd i olygu y bydd llai allai yn mynd ymlaen i addysg uwch a bellach hefyd.
“Erbyn hyn mae dyn yn gweld bod cerddoriaeth o gael ei dynnu o ysgolion yn tori i fod yn grefft ac yn gelfyddyd i’r cyfoethog yn unig, ac mae hynny’n mynd i gael effaith andwyol ar ein dyfodol noi fel cenedl."
Mae’n galw felly ar Lywodraeth Cymru i ddilyn ôl-troed Lloegr a chyflwyno mwy o ganolfannau neu hybiau cerddoriaeth .
“Ymhob un sir yng Nghymru, mae angen canolfannau cerdd 'fyd sy'n gyfrwng i hyrwyddo cerddoriaeth offerynnol, lleisiol, jazz a phoblogaidd," meddai.
"Mae yna bethau tebyg wedi digwydd yn Lloegr. Does yna ddim byd tebyg wedi digwydd yng Nghymru oni bai am yma yn y gogledd ac ambell un yn y de.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw “wedi ymrwymo" i gefnogi addysg gerddorol ledled Cymru gan “fuddsoddi £13m yn y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, sy'n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 oed gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau cerddoriaeth”.
"Mae'r gwasanaeth yn cynnwys rhaglenni ar gyfer ysgolion, gan gynnwys 'Profiadau Cyntaf' a 'Llwybrau Cerddoriaeth', gan helpu dysgwyr i adeiladu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau i danio angerdd am gerddoriaeth a chefnogi astudiaethau pellach," medden nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru: "Mae gwaith arbennig yn mynd ymlaen ym mhob un o siroedd Cymru i gynyddu’r llwybrau tuag at gymhwyster TGAU a Safon Uwch. Ond mae’r broses yma yn mynd i gymryd amser.
"Mae’r data diweddaraf yn dangos cynydd yn y nifer sydd yn ymwneud â cherdd ers i Wasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru gael ei sefydlu ddwy flynedd a hanner yn ôl i weithredu amcanion Cynllun Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Cerddoriaeth."
Llun: Wyn Thomas gan Brifysgol Bangor